Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gwenidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r sefyllfa yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i fod yn ddifrifol iawn. Heddiw, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno bod y DU bellach ar y lefel uchaf o risg, gyda'r Cydgyngor Bioddiogelwch ar lefel 5.

Yn unol â’r penderfyniad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â CLlLC a Cholegau Cymru, wedi cytuno y dylai pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol symud i ddysgu ar-lein tan Ionawr 18.

Fel llywodraeth byddwn yn defnyddio'r pythefnos nesaf i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i gynllunio ar gyfer gweddill y tymor. 

Dyma'r ffordd orau o sicrhau y gall rhieni, staff a dysgwyr fod yn hyderus wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r wybodaeth ddiweddaraf. 

Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy'n agored i niwed, yn ogystal ag i ddysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.  Ar y sail hon dylai Ysgolion Arbennig ac UCDau aros ar agor os oes modd.

I gychwyn, roeddem wedi rhoi hyblygrwydd i ysgolion yn ystod pythefnos cyntaf y tymor i benderfynu pryd i ailagor yn seiliedig ar amgylchiadau lleol.

Ond mae'n amlwg bellach mai dull cenedlaethol o ddysgu ar-lein ar gyfer pythefnos cyntaf y tymor yw'r ffordd gorau ymlaen. 

Gwyddom fod ysgolion a cholegau wedi bod yn lleoliadau diogel drwy gydol y pandemig.

Fodd bynnag, gwyddom hefyd y gall lleoliadau addysg sy'n agored gyfrannu at gymysgu cymdeithasol ehangach y tu allan i amgylchedd yr ysgol a'r coleg.

Rydym yn hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith ar gyfer y cyfnod uniongyrchol hwn. 

Mae prifysgolion yng Nghymru eisoes wedi cytuno ar ddechrau graddol i'r tymor. Ni ddylai myfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb hyd nes y cânt eu hysbysu y dylent wneud hynny.

Mae Cymru yn parhau i fod yn y lefel uchaf o gyfyngiadau. Rhaid i bawb aros gartref.

Byddaf yn parhau i ddiweddaru aelodau.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.