Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud erbyn hyn o ran diogelu plant o fewn y gwasanaeth addysg yn Sir Benfro.
Ysgrifennais i a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol at Arweinydd Cyngor Sir Penfro ar 12 Mehefin. Yn yn llythyr hwnnw, cafodd wybod fod gennym bryderon difrifol o hyd am drefniadau diogelu plant mewn gwasanaethau addysg yn y sir a’n bod yn ystyried rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod. Gofynnwyd hefyd i’r Arweinydd faint o hyder y gallem ei roi yn ei uwch-swyddogion.
Nid yw’r canfyddiadau yn adroddiadau Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro a’r arolygiaethau yn gwneud fawr ddim i leddfu’n pryderon. Nid oes unrhyw beth a ddywedwyd gan yr Arweinydd yn y llythyr a anfonwyd ganddo i ateb ein llythyr ni, nac yn y neges e-bost a anfonodd atom wedyn, sy’n ein darbwyllo nad yw’r Bwrdd a’r arolygiaethau yn llygad eu lle. Roeddem yn gwybod eisoes am y rhan fwyaf o’r hyn a amlinellwyd yn ei lythyr, a hynny drwy’r arolygiaethau a gwaith Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro.  
Rydym wedi ystyried yr ohebiaeth oddi wrth yr Arweinydd yn ofalus. Rydym wedi edrych ar y ffeithiau fwy nag unwaith ac wedi ceisio cyngor cyfreithiol. Rhaid i ni gael gwybod bod popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau bod plant yn Sir Benfro yn ddiogel. Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth, rydym wedi penderfynu rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Sir Penfro gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir iddo gan Ei Anrhydedd, Graham Jones, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro, ac sydd, yn ei farn ef, yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni mewn modd digonol y ddyletswydd statudol sydd arno i arfer ei swyddogaethau addysg gyda golwg ar ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles. Gan fod y cyfarwyddyd hwn yn cael ei gyhoeddi o dan y pwerau a roddir gan Ddeddf Addysg 1996, bydd y Bwrdd, o hyn ymlaen, yn adrodd i mi ac i fy swyddogion.
Wrth gyhoeddi’r cyfarwyddyd hwn, nid wyf yn rhyddhau’r awdurdod lleol oddi wrth ei gyfrifoldebau diogelu. Mae diogelu plant yn Sir Benfro yn parhau i fod yn ddyletswydd i’r awdurdod, yn hytrach nag i’r Bwrdd. Fodd bynnag, mae’r cyfarwyddyd yn datgan yn glir pam nad oes gennym ni, fel Lywodraeth Cymru, lawer o ffydd mewn rhai o’r uwch-swyddogion. Mater i’r Arweinydd a’r Awdurdod yw dangos bod yr awdurdod o ddifrif ynglŷn â’r cyfrifoldebau sydd arno o ran diogelu plant, a’i fod yn gwneud hynny mewn ffyrdd sy’n mynd y tu hwnt i reoli prosesau.  
Byddwn yn siomedig pe bai’n rhaid i’r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau i’r awdurdod, oherwydd byddwn yn cymryd bod hynny’n dystiolaeth o fethiant amlwg ar ran yr awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau i ddiogelu plant mewn modd digonol. Os na fydd y Cadeirydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau, ni fyddaf yn derbyn unrhyw ddadl bod popeth yn foddhaol neu fod yn Bwrdd yn cytuno â’r camau a gymerir gan yr awdurdod. Os bydd yr awdurdod yn cyflawni mewn modd digonol y ddyletswydd sydd arno i arfer ei swyddogaethau addysg gyda golwg ar ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles, ni ddylai fod unrhyw angen i Gadeirydd y Bwrdd roi unrhyw gyfarwyddiadau. Mae angen prawf pendant arnaf sy’n dangos y gallwn ni i gyd fod â ffydd yn yr awdurdod.
Ar wahân i’r uchod, mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru fynd ati’n gynt na’r disgwyl i gynnal ailarolygiad o’r awdurdod, ac mae hwn yn arwydd arall o ba mor bwysig yw’r materion hyn i Weinidogion Cymru.  
O’i rhan hi, bydd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gadw llygad ar waith y Bwrdd a bydd am gael gwybod sut y bydd yn dod yn ei flaen. Mae am gael gwybod ar unwaith os bydd unrhyw faterion yn ymwneud â diogelu plant yn codi y tu allan i faes addysg.
Rydym yn dra ymwybodol bod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol newydd wedi dechrau ar ei waith yn yr awdurdod ac rydym yn disgwyl iddo ddylanwadu o’r newydd ar y materion hyn a’u gyrru yn eu blaen, ac y bydd hefyd am weithio mewn ffordd adeiladol gyda’r Bwrdd a phartneriaid eraill, gan gynnwys cydweithio ag awdurdodau eraill. Er mwyn cefnogi gwaith y Bwrdd, bydd y Dirprwy Weinidog yn cryfhau’r berthynas rhyngddi hi ac aelodau perthnasol o’r cabinet, a rhyngddi hi a’r Cyfarwyddwr newydd.
Yn y cyfamser, rydym yn disgwyl i Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro barhau i fonitro’r awdurdod, gan barhau hefyd i ymgysylltu ag aelodau’r awdurdod er mwyn datblygu eu rôl o ran cyfranogiad democrataidd. Bydd disgwyl iddo hefyd barhau i ymwneud â’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig wrth drosglwyddo i’r trefniadau newydd ar gyfer gwaith gyda phenaethiaid yn Sir Benfro. Bydd y trefniadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y gwaith hwn, yn ogystal â’r gost o fwrw ymlaen ag ef. Rydym yn ddiolchgar i holl aelodau’r Bwrdd, a’r ysgrifenyddiaeth, a hoffem eu llongyfarch ar y gwaith a wnaed hyd yma. Rydym yn disgwyl i’r Bwrdd barhau yn ei le tan ddiwedd y flwyddyn galendr hon, nes y daw adroddiadau i law oddi wrth yr arolygiaethau. Mae’n bosibl y caiff y sefyllfa ei hadolygu ar ôl hynny.
Bydd yr arolygiaethau, sef AGGCC ac Estyn, yn cynnal eu hailarolygiadau ym mis Hydref, a byddwn yn penderfynu ar y camau nesaf i’w cymryd ar sail eu hadroddiadau hwy ac ar sail adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Gobeithiwn y bydd prawf adroddiadau’r arolygiaethau yn rhoi prawf i ni fod pethau wedi newid yn sylfaenol. Fodd bynnag, nid yw aros tan i’r adroddiadau arolygu hyn ddod i law ar ddiwedd y flwyddyn yn opsiwn.
Rwyf am bwysleisio ein bod yn deall bod penaethiaid ac athrawon yn Sir Benfro wedi bod yn gweithio o dan amgylchiadau anodd. Rydym yn ymwybodol nad yw’r awdurdod yn rhoi’r eglurder nac yn cynnig y gefnogaeth y mae ganddynt yr hawl i’w disgwyl. Byddaf yn cyfarfod â phenaethiaid yn Sir Benfro, ynghyd â’u cynrychiolwyr undeb, ar ddechrau tymor yr hydref er mwyn cael clywed oddi wrthynt yn uniongyrchol.
Nid ar chwarae bach y mae penderfyniad i roi cyfarwyddyd yn cael ei wneud, a rhaid i unrhyw gyfarwyddyd fod yn gymesur. O’r herwydd, rydym wedi cymryd ein hamser i bwyso a mesur yr holl dystiolaeth sydd ger ein bron. Wrth i ni fynd ati i wneud hynny, cynhaliwyd cyfarfod â’r Comisiynydd Plant, ac mae ef wedi dangos yn glir ei fod o blaid y cam hwn.Rydym yn hynod siomedig bod yn rhaid i ni gymryd y cam hwn, er gwaethaf holl waith da’r Bwrdd Gweinidogol wrth iddo gynnig cefnogaeth a her i Sir Benfro. Gobeithiwn y bydd adroddiadau’r arolygiaethau yn dod â newyddion gwell i ni erbyn diwedd y flwyddyn. Oni fyddant, bydd yn rhaid i ni ystyried cymryd camau llymach.