Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Hydref 2014, yn dilyn cam 1 adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol a’r trefniadau asesu yng Nghymru, cyhoeddais Feysydd Dysgu diwygiedig ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen ynghyd â Rhaglenni Astudio diwygiedig ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4 mewn Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg a Mathemateg.
Pwysleisiais bryd hynny y byddwn yn cynnal y system bresennol o ddefnyddio asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnodau allweddol er mwyn sicrhau bod y trefniadau asesu’n briodol ac yn berthnasol i’r Meysydd Dysgu a’r Rhaglenni Astudio diwygiedig.
Gan nad oedd goblygiadau adolygiad yr Athro Donaldson yn glir bryd hynny nodais y byddem yn diwygio’r disgrifyddion lefelau presennol i gyd-fynd â’r Meysydd Dysgu a’r Rhaglenni Astudio newydd. Mae adolygiad yr Athro Donaldson bellach wedi’i gyhoeddi ac yn dilyn gwaith ymchwilio pellach ynghylch effeithiau diwygiadau o’r fath rwyf wedi penderfynu bod angen defnyddio dull ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau bod y system asesu a’r system atebolrwydd yn berthnasol a’u bod yn tarfu cyn lleie
d â phosibl ar athrawon, rhieni a dysgwyr.
O safbwynt y Cyfnod Sylfaen, mae’n briodol ein bod yn parhau i dreialu Proffil y Cyfnod Sylfaen a chyhoeddi Deilliannau wedi’u hailraddnodi ar sail y gwaith treialu hwn sy’n cyd-fynd â’r datganiadau disgwyliadau o fewn y Meysydd Dysgu a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Bydd y manylion o fewn Proffil y Cyfnod Sylfaen yn darparu gwybodaeth fanwl am ddatblygiad plant ar ddechrau Cyfnod Allweddol 2, gan ei gwneud hi’n haws iddynt drosglwyddo o un cyfnod i’r nesaf. Daw hyn i rym ym mis Medi 2015, sef y dyddiad pan ddaw’r Meysydd Dysgu yn rhai statudol.
O safbwynt Cyfnodau Allweddol 2 i 3, dangosodd y gwaith o ailraddnodi’r disgrifyddion lefelau y byddai newidiadau sylweddol i lefelau. Os daw’r newidiadau hynny i rym byddem yn achosi llawer iawn o waith ychwanegol i athrawon, ni fyddai’r asesu mor ddibynadwy gan na fyddai athrawon mor gyfarwydd â’r lefelau newydd a hefyd ni fyddai rhieni mor gyfarwydd â hwy. Nid yw hynny’n dderbyniol. Mae canllawiau ar gyfer rhaglenni astudio a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd eisoes yn pwysleisio bod disgwyliadau o safbwynt addysgu a dysgu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 yn fwy tebyg i Lefel 6 na Lefel 5 a bod y disgwyliadau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 yn fwy tebyg i Lefel 5 na Lefel 4. Yn ogystal, mae’n rhaid i ni baratoi ein dysgwyr yn ddigonol fel bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer dilyn y cymwysterau TGAU diwygiedig. Rwyf felly wedi penderfynu mai’r peth gorau i’w wneud ydy cadw’r disgrifyddion lefel presennol ar gyfer y pynciau y bydd y newidiadau’n effeithio arnynt, gan hefyd gynorthwyo ysgolion i weithio tuag at ddisgwyliadau uwch yn unol â’r datganiadau disgwyliadau. Byddaf yn disgwyl i hyn ddigwydd o fis Medi 2015.
Un effaith a fydd yn dod i rym ar unwaith yw y bydd Deilliant 5 y Cyfnod Sylfaen yn cyfateb yn fras i Lefel 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn hytrach na Lefel 2 fel y disgwylir ar hyn o bryd, o fis Medi 2015.
Credaf ei bod yn briodol cadw golwg ar y modd y bydd y newidiadau diwylliannol sydd eu hangen i baratoi ein pobl ifanc yn dwyn ffrwyth. O’r herwydd rwy’n bwriadu cyflwyno newidiadau i’r system categoreiddio ysgolion, gan ddefnyddio data ynghylch y lefel ddisgwyliedig uwch o haf 2018. Golyga hyn y byddwn yn defnyddio data ynghylch y dysgwyr sy’n cyflawni Lefel 5 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, ac sy’n cyflawni Lefel 6 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Credaf fod hyn yn caniatáu digon o amser i ysgolion a systemau atebolrwydd addasu fel y bo angen.
O ddarllen adroddiad yr Athro Donaldson, sef ‘Dyfodol Llwyddiannus’, a gyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2015 mae’n amlwg na fydd y cwricwlwm na’r trefniadau asesu yn newid ar unwaith. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion sylfaenol a phellgyrhaeddol a rhagwelir y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w rhoi ar waith. Yn y cyfamser, bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod gwaith asesu cyfunol yn parhau’n berthnasol, bod cyn lleied â phosibl o darfu a bod y system gyfan yn sicrhau bod addysgu a dysgu wrth wraidd datblygiad ein pobl ifanc.