Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi diweddariad i aelodau ar ddatblygiad y trefniadau asesu a'r cwricwlwm newydd sydd yn symud yn ei flaen yn dda, ac sydd ar amser, a bydd fersiwn drafft ar gael ym mis Ebrill 2019.

Bydd gan ysgolion wedyn gyfle i ddarparu adborth, i brofi a choethi, cyn iddynt gael mynediad i’r cwricwlwm derfynol o 2020, gan eu caniatáu i fod yn hollol barod ar gyfer ei weithredu’n statudol ym Medi 2022.  Mae hyn yn ganolog i genhadaeth ein cenedl i godi safonau, i gau’r bwlch cyrhaeddiad a chreu system addysg sydd yn destun balchder cenedlaethol.

Ers Ionawr mae Ysgolion Arloesi sydd wedi cael eu cefnogi gan addysgwyr blaengar ledled y byd, Sefydliadau Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru a’n rhanddeiliaid i ddarparu cynnydd sylweddol.

Mae Ysgolion Arloesi wedi datblygu datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad -  y ffyrdd o drefnu dysgu ar draws y cwricwlwm.  Bydd y datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ yn datgan y wybodaeth a’r sgiliau sydd angen eu cyflawni a gyda’r bwriad o wneud yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddysgu yn addas ar gyfer y byd y maent yn byw ynddi heddiw ac eu helpu i addasu i gymdeithas a byd sydd yn newid.  

Dilyniant a chynnydd sy'n sail i'n cwricwlwm a'n trefniadau asesu newydd.  Mae'r prosiect CAMAU, a redir gan Yr Athrofa ac Y Drindod Dewi Sant a phrifysgol Glasgow, wedi cefnogi Arloeswyr yn y gwaith o ddatblygu'r ymagwedd hon. Bydd yn seiliedig ar gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 16 oed.

Bydd y Camau Cynnydd yn cael eu pennu yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed, a byddant i'w gweld ar ffurf Deilliannau Cyflawniad a fydd yn berthnasol, yn fras, i'r disgwyliadau ar yr adegau hynny.  Bydd y rhain yn helpu athrawon i drefnu dysgu mewn ffordd briodol ar gyfer pob dysgwr.

Mae Arloeswyr hefyd yn ystyried anghenion dysgu proffesiynol sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn bwydo i mewn i'r Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a gaiff ei lansio yn yr hydref i gefnogi gweithwyr y sector i symud i'r cwricwlwm newydd.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Estyn drywydd er mwyn helpu ysgolion i baratoi. Gall arweinwyr ysgolion ddechrau paratoi ar gyfer y newid nawr drwy ddefnyddio'r trywydd ac edrych ar yr astudiaethau achos ledled Cymru.

Mae ein diwygiadau yn cael eu datblygu mewn ffordd gydweithredol a thryloyw, gan gyhoeddi diweddariadau cyson.  Yr wythnos hon, rydym wedi cyhoeddi 5 papur yn amlinellu ein hymagwedd tuag at y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gyda phapur arall i ddod ym mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi cyhoeddi podlediad diweddaraf Addysg Cymru, sy'n rhoi sylw manwl i'r Cwricwlwm. Ynddo, mae Graham Donaldson, Mark Priestley a Louise Hayward yn trafod sut y mae ein diwygiadau'n rhoi addysg Cymru ar y map ar draws y byd.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb ddilyn ein cynnydd o ran y diwygiadau drwy danysgrifio i flog Cwricwlwm Cymru, gwrando ar y podlediad y soniwyd amdano uchod, neu danysgrifio i dderbyn cylchlythyr addysg Llywodraeth Cymru, sef Dysg. Yr wythnos hon, mae'r rhifyn diweddaraf o Dysg yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygiadau mewn perthynas â'r trefniadau asesu a'r cwricwlwm newydd.