Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cadarnhau heddiw y bydd pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

Roedd Grŵp Cynghori Technegol Cymru, sy'n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i'r Llywodraeth yn ystod argyfyngau, yn argymell bod ysgolion "yn bwriadu agor ym mis Medi gyda 100% o ddisgyblion yn cyflwyno'n gorfforol ar safleoedd ysgolion, yn amodol ar ddirywiad cyson a graddol ym mhresenoldeb covid-19 yn y gymuned."

Mae'r papur sy'n cynnwys y cyngor hwn wedi'i gyhoeddi heddiw.

Bydd tymor yr Hydref yn dechrau ar 1af Medi a dylai ysgolion sy'n gallu darparu ar gyfer pob disgybl o ddechrau'r tymor wneud hynny.

Bydd cyfnod o hyblygrwydd o ran cydnabod y bydd ysgolion o bosibl am ganolbwyntio ar grwpiau blwyddyn blaenoriaeth, megis y rhai sy'n newydd i ysgolion uwchradd, y rhai sy'n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu'r rhai mewn dosbarthiadau derbyn. Bydd hyn hefyd yn caniatáu amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw gynllunio ac ad-drefnu.

Byddaf yn cyhoeddi'r canllawiau gweithredol a dysgu diwygiedig ar gyfer mis Medi yr wythnos nesaf. Mae swyddogion addysg y Llywodraeth yn cael eu cefnogi yn y gwaith hwn gan awdurdodau lleol, penaethiaid, swyddogion iechyd y cyhoedd, undebau athrawon ac ymarferwyr addysg.

Rwyf hefyd wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod £ 29m ar gael i ' recriwtio, adfer a chodi safonau ' yn ysgolion Cymru mewn ymateb i'r effaith y mae'r pandemig yn dal i'w gael.

Mae fy swyddogion hefyd yn gweithio gyda cholegau Addysg Bellach i gefnogi dychweliad ym mis Medi. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.