Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe fydd yr Aelodau’n ymwybodol bod cyfnod pontio’r UE yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Mae paratoadau’n mynd rhagddynt o ran iechyd a gofal cymdeithasol, gan ystyried sefyllfa ddiweddaraf y negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE. Blaenoriaeth allweddol yn hyn o beth yw sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyflenwad parhaus o feddyginiaethau a chynnyrch meddygol eraill.

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i Aelodau ein bod ni wedi gwneud cynnydd da o ran cynllunio i sicrhau cyflenwad parhaus o feddyginiaethau a chynnyrch meddygol, gan helpu i sicrhau bod gwasanaethau mor barod â phosibl ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd ar ddiwedd y flwyddyn. Mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar y trefniadau a ddatblygwyd cyn i’r DU ymadael â’r UE, ac mae hefyd yn ystyried ein profiadau yn ystod y pandemig eleni.

Mae ein trefniadau ar gyfer sicrhau parhad cyflenwadau yn cyfuno trefniadau pwrpasol ar gyfer Cymru gyda’n cyfranogiad yn y trefniadau ar gyfer y DU gyfan, sy’n cael eu harwain yn bennaf gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU. Drwy ddefnyddio’r dull aml haen hwn, rydym yn sicrhau’r hyder a’r sicrwydd mwyaf posibl yn y trefniadau ar gyfer rheoli unrhyw darfu posibl yn dilyn y cyfnod pontio.

Mae enghreifftiau o’r trefniadau pwrpasol ar gyfer Cymru’n cynnwys:

  • Dull llywodraethu ar gyfer cynlluniau wrth gefn gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a’r Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • Mae’r stoc ‘Brexit’ blaenorol o ddyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol wedi’i adolygu a’i ailgyflenwi, dan arweiniad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r gwaith hwn bron â bod wedi’i gwblhau;
  • Cytundeb gyda Chyfarwyddwyr Meddygol y byrddau iechyd ar y gweithdrefnau ar gyfer ychwanegu cynnyrch pellach i’r stoc, ac ar reoli datrysiadau i unrhyw faterion cyflenwi dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol a all godi;
  • Cynnal ymarfer profi (Operation Artful) ar 9 Tachwedd ar drefniadau Cymru ar gyfer adnabod a datrys materion cyflenwi posibl ar gyfer dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol, a mireinio trefniadau yn dilyn yr ymarfer;
  • Paratoi canllawiau penodol i’r sector gofal cymdeithasol ar feddyginiaethau a chael gafael ar ddyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol o’r stoc.  

Yn ddiweddar, ysgrifennais at Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU ar gyfer Iechyd, Edward Argar AS, i gadarnhau y bydd Cymru’n cymryd rhan yn yr elfennau canlynol sy’n cael eu darparu ar lefel y DU:

  • Cymorth ychwanegol ar gyfer y tîm wrth gefn ar gyfer meddyginiaethau i roi hwb i’r rhaglen a’r galluoedd dadansoddi;
  • Ymarfer ymgysylltu a chyfathrebu gyda chyflenwyr meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol a nwyddau traul clinigol i asesu eu parodrwydd ar gyfer diwedd y cyfnod pontio;
  • Gwasanaeth cludo llwythi yn gyflym ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau a chynnyrch meddygol i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd ar gael os bydd trefniadau cludiant y cyflenwr yn methu ac nad yw datrysiadau cludiant eraill y DU yn gallu datrys y broblem o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol;
  • System Ymateb i Darfu ar y Cyflenwad Cenedlaethol ar draws y DU sy’n darparu pwynt cyswllt unigol ar gyfer problemau yn ymwneud â phrinder cyflenwadau yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cyfuniad hwn o drefniadau yng Nghymru ac ar draws y DU yn rhoi lefel mor uchel â phosibl o sicrwydd inni ar barhad cyflenwadau meddyginiaeth a chynnyrch meddygol, cyn i gyfnod pontio’r UE ddod i ben, gan ddechrau ar gyfnod o addasu i berthynas newydd y DU gyda’r UE.