Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Aelodau’r Cynulliad, mae’n hawdd deall faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd yn nyfodol gwasanaethau newyddenedigol yn y Gogledd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) wedi penderfynu, yn dilyn y drefn briodol, y dylid trosglwyddo rhai o’r gwasanaethau hyn i Arrowe Park yn Lloegr fel ffordd o wella cydymffurfiaeth y gwasanaethau a ddarperir â safonau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain.

Mae’n gwbl briodol bod BCUHB yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn i ddarparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r safonau hyn ar gyfer babanod yn y Gogledd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio Arrowe Park lle bo angen. 

Fodd bynnag, hoffwn gael cyngor annibynnol pellach ynghylch a oes model arall ar gael er mwyn i’r gwasanaeth pwysig a hanfodol hwn fod yn hunangynhaliol yn y Gogledd yn yr hirdymor, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Rwyf felly wedi penderfynu rhoi trefniadau ar waith i gael cyngor ar y posibiliadau yn y dyfodol ynghylch datblygu gwasanaethau newyddenedigol arbenigol yn y Gogledd. Bydd y cylch gorchwyl yn cynnwys dichonoldeb darparu gwasanaeth gofal dwys newyddenedigol yn y Gogledd. Hefyd rwyf am edrych ar y rhyngddibyniaethau gyda gwasanaethau acíwt ac ar bellteroedd teithio, ac rwyf am sicrhau bod BCUHB yn cynnal ac yn meithrin arbenigedd clinigol.

Bydd fy swyddogion yn gweithio i bennu’r union amserlenni, gan gynnwys cydblethu hyn ag adolygiad gwasanaethau acíwt BCUHB. Byddant yn gweithio gyda BCUHB i roi’r trefniadau ymarferol gofynnol ar waith, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn maes o law. Bydd y cyhoedd yn disgwyl i ni gydweithio ar bob cam gweithredu, yn y tymor canolig a’r hirdymor, i sefydlu gwasanaethau diogel a chynaliadwy. Mae’n bwysig bod BCUHB yn parhau â’r gwaith ac ni ddylid ystyried fy mhenderfyniad yn feirniadaeth ar eu gweithredoedd mewn unrhyw ffordd. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod yn rhaid i wasanaethau iechyd newid yng Nghymru, ac yn yr achos penodol hwn rwy’n gofyn am gyngor ynghylch a fydd cyfle yn y dyfodol i ddarparu’r gwasanaethau newyddenedigol hyn yn y Gogledd.

Rydyn ni i gyd yn cydnabod bod angen newid yn y GIG, ac mae hyn yn codi materion anodd a heriol i ni i gyd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos babanod bach. Rydyn ni i gyd am wneud beth sydd orau nawr ac yn y dyfodol. Byddaf yn rhoi manylion diweddaraf y gwaith hwn i chi maes o law, ynghyd â’r amserlenni ar ôl penderfynu arnynt yn derfynol.