Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hymateb hir-ddisgwyliedig i'r Adolygiad o Addysg a Chyllid Ôl-18 a gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 2019. At ei gilydd, nod 'Cynllun 5' yw lleihau cost Cyllidebu a Chyfrifyddu Adnoddau (RAB), sef yr amcangyfrif blynyddol o gyfran y llyfr benthyciadau myfyrwyr na fydd yn cael ei ad-dalu.
Mae’r system newydd yn cwmpasu mwy o unigolion – y rhan fwyaf yn grwpiau graddedigion ar incwm canolig neu incwm is – sydd naill ai ddim yn talu ar hyn o bryd neu yn talu cyfran gymharol fechan o’r benthyciad yn ôl. Mae hyn yn golygu y bydd nifer fwy o raddedigion yn waeth eu byd nag y maent o dan y system bresennol felly.
Mae natur y broses ariannol a’r broses o wneud rheoliadau yn golygu bod system ad-dalu cymorth i fyfyrwyr Cymru wedi'i halinio â’r system yn Lloegr yn hanesyddol. Mae'n rhwystredig dros ben mai ychydig iawn o rybudd a gawsom am y newidiadau sylweddol hyn cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Yn dilyn hyn, aeth cyfnod helaeth iawn heibio cyn i Drysorlys y Deyrnas Unedig roi gwybod i ni beth oedd y sefyllfa gyllidebol. Gofynnwyd i ni nawr wneud penderfyniad, o fewn amserlen sy’n afresymol o dynn, heb ddigon o wybodaeth, ynghylch yr effaith ar ein graddedigion yn y dyfodol.
Felly, gallaf gadarnhau heddiw y bydd Cymru yn parhau o dan y drefn bresennol am flwyddyn arall. Bydd y rhai sy’n benthyg am y tro cyntaf yn gwneud hynny o dan y telerau a’r amodau presennol. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn parhau i ddefnyddio'r trothwy ad-dalu o £27,295, nid y trothwy o £25,000 sydd yng Nghynllun 5. Bydd graddedigion yng Nghymru yn ad-dalu benthyciadau o dan y cyfnod ad-dalu 30 mlynedd, yn hytrach na’r cyfnod ad-dalu 40 mlynedd sydd yng Nghynllun 5.
Mae parhau â'r system bresennol o gymorth i fyfyrwyr yn cynnig sicrwydd ac yn caniatáu inni lawn asesu'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, eu heffaith bosibl ar fenthycwyr yng Nghymru pe baent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a'r sefyllfa gyllidebol.
Mae hyn hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod ein system mor flaengar ag y gall fod. Oherwydd aliniad ein systemau ad-dalu, a’n bod yn gweithio o fewn y cyfyngiadau ariannol sydd wedi eu gosod gan Drysorlys y Deyrnas Unedig, rwy’n rhag-weld y bydd angen i Gymru symud i Gynllun 5 yn 2024. O ohirio am flwyddyn, rydym yn gwneud y mwyaf o’n gallu i weithredu’r trefniadau mwy blaengar presennol gyn hired ag sy’n ymarferol bosibl. Bydd hefyd yn rhoi digon o amser i edych ar fesurau blaengar ychwanegol y mae modd i ni eu rhoi ar waith i roi mwy o gefnogaeth i raddedigion y dyfodol wrth i ni symud i Gynllun 5.
Yng Nghymru y mae’r system gyllid fwyaf blaengar i fyfyrwyr yn y DU, gan roi cymorth grant costau byw i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae’r grantiau uchaf yn targedu’r myfyrwyr hynny sy’n dod o’r aelwydydd ar yr incwm isaf. Rwy’n cadarnhau mai ein blaenoriaeth ni fydd diogelu’r gefnogaeth hanfodol hon, er mwyn sicrhau nad yw arian byth yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg uwch. Mae’r system grant hon hefyd yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn mynd i ddyled sy’n sylweddol lai na myfyrwyr o Loegr. Mae cost RAB Cymru, sef y gyfran o fenthyciadau nad ydynt yn cael eu had-dalu i’r Trysorlys, felly, yn is na’r gyfran yn Lloegr. Yng ngoleuni’r ffactorau ariannol hyn, byddwn yn defnyddio’r 12 mis nesaf i edrych ar ba fesurau blaengar y mae modd i ni eu cymryd, wrth i ni symud, mae’n debygol iawn, i Gynllun 5.
Mae’r ffaith bod Lloegr yn symud i Gynllun 5 yn golygu y bydd benthyciadau'n cael eu penderfynu ar sail cynnydd blynyddol gan ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Manwerthu, yn hytrach nag enillion cyfartalog. Mae hyn o fudd i bobl ar gyflog uwch na fydd yn cronni cymaint o log ac yn ad-dalu eu benthyciad yn gyflymach. Yn gyffredinol, nid yw pobl ar gyflog is yn ad-dalu cyn i'r cyfnod penodedig ddod i ben, felly nid ydynt yn elwa cymaint ar y cyfraddau llog newydd. Trwy gadw'r system bresennol am flwyddyn arall, gallaf gadarnhau y bydd benthyciadau i raddedigion yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio’r Mynegai Prisiau Manwerthu, hyd at Mynegai Prisiau Manwerthu+3%. Yn allweddol, nid yw hyn yn golygu y bydd ad-daliadau misol yn uwch gan eu bod yn parhau i gael eu capio ar ganran o incwm.
Byddaf yn rhoi diweddariad i’r Aelodau o'n hasesiad o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr a'r sefyllfa i’r myfyrwyr a fydd yn cael benthyciadau o flwyddyn academaidd 2024 i 2025 maes o law.