Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn un o’r deg bygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Mae’r G7 yn nodi bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad mawr, ar yr un lefel â heintiau pandemig fel COVID-19 a newid hinsawdd. Mae Asesiad Risg Diogelwch Cenedlaethol y DU 2022 hefyd yn nodi bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn risg gronig.
Mae Cymru wedi ymrwymo o hyd i gyflawni’r nodau yng ngweledigaeth 20 mlynedd y DU ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd [Saesneg yn unig] a’r uchelgeisiau 5 mlynedd yng nghynllun gweithredu pum mlynedd y DU ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd 2019 i 2024 [Saesneg yn unig] i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd a hynny drwy leihau baich heintiau, gwella triniaethau a gwneud y defnydd gorau posibl o wrthficrobau mewn pobl.
Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’r gwaith i gyflawni nodau cynllun gweithredu y DU. Rwy’n falch ein bod yn gweithio ar draws y pedair gwlad i ddatblygu cynllun cenedlaethol newydd pum mlynedd o hyd ar gyfer y DU.
Yn rhan o’r cynllun presennol, ymrwymodd Llywodraeth y DU i weithio gyda chyrff yn y diwydiant i weld sut gall y DU arwain yn fyd-eang wrth ddatblygu ffyrdd newydd o brynu gwrthficrobau a fydd yn annog y diwydiant i barhau i fuddsoddi yn eu datblygiad.
Rydym yn gweithio gyda’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a GIG Lloegr ar y prosiect prynu gwrthfiotigau newydd. Mae’n hanfodol ein bod yn cymell gweithgynhyrchwyr fferyllol i flaenoriaethu datblygu meddyginiaethau gwrthficrobaidd yn y dyfodol ac rwy’n falch y bydd Cymru yn chwarae ei rhan wrth gefnogi’r ymrwymiad sylfaenol hwn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.