Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae problem troseddau gwastraff yn broblem fawr sy’n tyfu, ac amcangyfrifir eu bod yn costio rhyw £569 miliwn y flwyddyn i fusnesau. Rwy’n ofidus ynghylch nifer y digwyddiadau yn y blynyddoedd diwethaf a bod safleoedd yn gweithredu mewn ffordd a allai beryglu iechyd pobl a’r amgylchedd.
Yr un pryd, mae twf gwyrdd yn sbardun bwysig ar gyfer ein gweledigaeth ar gyfer twf cynaliadwy. Mae cyflwr ein hamgylchedd felly yn ffactor bwysig yn ein bywydau heddiw a’r gwaddol a adawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym am greu cyfleoedd i ddatblygu’r economi mewn ffordd sy’n amgylcheddol gynaliadwy, yn gymdeithasol gynhwysol ac sy’n darparu cymunedau mwy diogel, cydnerth a glân. Mae gan y diwydiant gwastraff ran allweddol i’n helpu yn hyn o beth ac i’r perwyl hwn, mae’n cael ei reoleiddio’n ofalus i ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl.
Mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant yn ymddwyn yn gyfrifol ond mae rhan fach ohono’n gwrthod cynnal y safonau gofynnol neu’n gweithredu’n anghyfreithlon. Rwyf am ddisgrifio’n cynlluniau ar gyfer trechu troseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant rheoli gwastraff. Rydym am sicrhau bod busnesau dilys yn cael gweithredu ar gae gwastad heb gystadleuaeth annheg gan fusnesau gwastraff diegwyddor ac rydym am ofalu nad yw’r troseddwyr yn llygru’r amgylchedd, yn peryglu iechyd pobl nac yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol. Rwyf wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd gan y Llywodraeth i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda Defra sy’n disgrifio’n cynigion ar gyfer cryfhau’r pwerau gorfodi a ddefnyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cyfleusterau trwyddedig. Mae gwella lefelau cydymffurfiaeth trwy reoliadau o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn bwysig. Ein rheoleiddydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gyfrifol am reoleiddio’r diwydiant gwastraff, hynny ar sail risg, gan sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy er lles yr amgylchedd a phobl. Ei nod o hyd yw gwella perfformiad a chael mwy o gydymffurfio ar safleoedd trwyddedig a bydd yn canolbwyntio ei sylw o ran gorfodi, archwilio a thrwyddedu ar y rheini sy’n methu’r safonau gofynnol yn eu trwyddedau.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y cynigion i wella’r pwerau gorfodi i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant gwastraff, rwyf wedi gwrando ar farn y diwydiant a’r rheoleiddwyr ac mae’n dda gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi rhoi deddfwriaeth gerbron y Cynulliad a fydd yn cryfhau pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y drefn trwyddedu amgylcheddol.
Bydd y newidiadau yn:-
- galluogi rheoleiddydd i atal trwydded os gwelir bod perchennog y drwydded wedi torri amodau ei drwydded a bod perygl llygru; bydd y ddarpariaeth yn galluogi’r rheoleiddydd i nodi ar hysbysiad atal y camau y bydd yn rhaid i berchennog y drwydded eu cymryd i unioni’r tramgwydd ac i gael gwared ar y perygl llygru;
- galluogi’r rheoleiddydd i fynnu bod perchennog y drwydded yn codi arwydd i hysbysu’r cyhoedd nad ydynt yn cael dod â rhagor o wastraff i’r cyfleuster os ydy trwydded y cyfleuster wedi’i hatal a bod angen atal gwastraff rhag dod i’r safle;
- galluogi’r rheoleiddydd i gymryd camau i gael gwared ar berygl llygru mawr;
- ei gwneud yn haws i reoleiddydd wneud cais i’r Uchel Lys am waharddeb i orfodi cydymffurfiaeth â hysbysiad gorfodi neu atal trwy ddileu rhai rhagamodau.
- galluogi’r rheoleiddydd o dan rai amgylchiadau i gymryd camau i wahardd mynediad at safle;
- ehangu gallu’r rheoleiddydd i fynnu bod gwastraff yn cael ei godi o dir os yw’n anghyfreithlon cadw’r gwastraff hwnnw yno.
Yn ogystal, yn ei adolygiad blynyddol o berfformiad y sector gwastraff yng Nghymru, gwelodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod nifer y safleoedd gwaethaf eu perfformiad yn gostwng. Mae hyn yn galonogol ond mae angen inni godi safonau’r cyfleusterau trwyddedig ymhellach, rhwystro damweiniau a rhwystro’r rheini sy’n gweithredu’n anghyfreithlon. Pan fydd pentyrrau mawr o wastraff yn mynd ar dân, mae’r tân yn llygru aer a dŵr ac yn creu drewdod, sŵn a llwch niweidiol ac yn effeithio ar fusnesau eraill. Rhaid wrth lawer o amser ac adnoddau i ddelio â’r problemau hyn sy’n golygu costau sylweddol i’r rheoleiddydd a’r trethdalwr.
Bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac i nodi’r meysydd y mae angen eu targedu i leihau effeithiau troseddau gwastraff yng Nghymru. Efallai y bydd angen creu rhagor o gynigion ar gyfer deddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi un mater y gallwn ei dargedu i helpu’n hymdrechion i daclo troseddau gwastraff. Rydym wrthi’n datblygu’n Treth Gwarediadau Tirlenwi newydd a fydd yn y pendraw yn cymryd lle’r Dreth Tirlenwi yng Nghymru yn 2018. Rwy’n rhagweld y bydd yr erfyn defnyddiol hwn yn rhoi rheswm ariannol i atal troseddwyr gwastraff rhag drwgweithredu. Bydd yn sicrhau nad yw troseddau gwastraff yn talu.
Byddai gwella pwerau’r rheoleiddydd yn helpu i ddatrys rhai o’r problemau hyn ond ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal gwelliannau ar ei ben ei hun. Mae gennym oll Ddyletswydd Gofal a chyfrifoldeb i sicrhau’n bod yn delio â’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yn y ffordd briodol rhag iddo greu problem i’n cymunedau nawr nac yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i gyrff cyhoeddus, busnesau a phobl Cymru ysgwyddo’u hymrwymiadau o ran deddfwriaeth gwastraff a gwella a chryfhau, lle gallant, eu trefniadau cyfredol i osgoi cynhyrchu gwastraff ac i reoli’r gwastraff y maent yn ei gynhyrchu.
Cewch weld ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar lein.
Mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymgynghoriad ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i’w gweld ar lein.