Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru - COVID-19: Edrych tua’r Dyfodol, sy'n nodi ein dull gweithredu o ran ysgogi adferiad a chynllunio i'r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, trwy weithio ar ffyrdd newydd o weithio a chyfleoedd i wneud pethau yn wahanol yn dilyn pandemig COVID-19.  

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddwys ar ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ac ymddygiad pobl o ran sut y maent yn cael mynediad at y gwasanaethau hyn.  Er bod y pandemig yn heriol, mae wedi dangos gallu ein system iechyd a gofal cymdeithasol i addasu yn gyflym ac mae wedi bod yn sbardun ar gyfer profi Dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar canlyniadau, gyda ffocws newydd ar darparu gwasanaethau diogel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Nododd Cymru Iachach ein gweledigaeth ar gyfer trawsnewid, arloesi a darparu, trwy adeiladu ar ein dyheadau ar gyfer ein system iechyd a gofal cymdeithasol a rhoi sbardun iddynt. Mae gennym gyfle unigryw bellach i fanteisio ar yr egwyddorion allweddol a nodir yn Cymru Iachach, ochr yn ochr â'r gwersi a ddysgwyd o'n profiad o ymateb i bandemig COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf, i drawsnewid mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng i wella profiad a chanlyniadau clinigol ac i ddarparu gwasanaethau teg ledled Cymru.

Rwyf yn awyddus inni achub pob cyfle i ddysgu ac esblygu wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal modern sy'n bwysig i bobl ac sy'n diwallu eu hanghenion newidiol. Trwy newid y ffordd y mae cleifion yn gweld y system gofal mewn argyfwng ac yn cael mynediad ati, ein huchelgais yw:

  • Sicrhau bod pobl yn cael yr ymateb priodol, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn er budd cleifion a staff;
  • Manteisio ar ganlyniadau iechyd yr unigolyn a'r boblogaeth a darparu profiad gwell i bawb;
  • Lleihau'r pwysau ar rannau allweddol o'r system i greu capasiti i ganolbwyntio ar ein cleifion mwyaf sâl a mwyaf agored i niwed; a
  • Lleihau'r risg o niwed i gleifion trwy gadw cyswllt y gellir ei  osgoi â gofal iechyd i'r lleiaf posibl.

Caiff y gwaith o drawsnewid mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ei gefnogi gan gyllid cylchol o £25m o 2021/22 ymlaen.  Bydd hyn yn hwyluso'r gwaith o gyflawni nifer bach o ganlyniadau allweddol sydd, o'u cymryd gyda'i gilydd a'u cysylltu’n ddi-dor, yn ffurfio rhan o fodel integredig a fydd yn trawsnewid mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng.

Bydd y canlyniadau allweddol hyn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Parhau i roi modelau Cysylltu’n Gyntaf ar waith i alluogi pobl i gael eu hatgyfeirio at y lle iawn y tro cyntaf yn ôl eu hanghenion;
  • Rhoi modelau Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys ar waith i alluogi pobl ag anghenion gofal sylfaenol brys i gael mynediad haws at gyngor, asesiad a gofal yn agosach at y cartref;
  • Gwella'r model ymateb clinigol i wasanaethau ambiwlans 'glywed, trin ac atgyfeirio' pobl trwy ddarparu dewisiadau amgen i drafnidiaeth i Adrannau Argyfwng a galluogi anghenion iechyd pobl i gael eu rheoli'n well yn y gymuned; a
  • Rhoi gwasanaethau gofal mewn argyfwng ar waith yn effeithiol ledled Cymru i alluogi pobl i gael asesiad, diagnosis, a dechrau triniaeth ar yr un diwrnod, gan wella profiad y claf a lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty.

Er bod y mentrau hyn wedi'u sefydlu gyda chyfeiriad a chyllid dros y blynyddoedd diwethaf, bydd cyllid cylchol yn hwyluso cynllunio trawsnewidiol a chynaliadwy tymor hwy i sefydlu a chryfhau'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol.

Caiff y cyllid cylchol hwn ei reoli'n genedlaethol, gyda chyfeiriad, disgwyliadau a cherrig milltir yn cael eu pennu ar gyfer cynnydd yn erbyn y canlyniadau allweddol. Caiff cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trawsnewid mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ei sefydlu gydag amserlenni, canlyniadau ac allbynnau y gellir eu mesur a'u monitro.