Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o gael cyhoeddi bod y Canllawiau ar Strategaethau Lleol, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”), wedi cael eu cyhoeddi.

Nodir y ddyletswydd a osodir ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaethau lleol yn adrannau 5 i 8 o’r Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaethau lleol ar y cyd i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r Canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu’r strategaethau lleol fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.

Gellir cael gafael ar y Canllawiau yma: http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/domesticabuse/publications/local-strategies-guidance/?lang=cy

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio dogfen ymgynghori ac arolwg ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr. Mae’n sôn am gefndir y polisi hwn, y gwersi a’r dystiolaeth sy’n sail i’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith, ynghyd â chyfres o opsiynau ar ei gyfer. Yn y pen draw, mae’n debyg y bydd y Fframwaith yn seiliedig ar gyfuniad o’r opsiynau hyn.

Mae’r ddogfen ymgynghori a’r arolwg ar gael yma: http://livefearfree.gov.wales/policies-and-guidance/national-survivor-engagement-framework;lang=cy