Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o gael cyhoeddi bod trydydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) wedi ei osod gerbron y Cynulliad.

Mae’r adroddiad, sy'n ymdrin â’r cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019, yn disgrifio'r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni diben y Ddeddf a'r amcanion a amlinellir yn y strategaeth genedlaethol sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf.

Mae'r adroddiad yn amlinellu'r cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod 2018-2019, megis lansio ymgyrch Nid Cariad yw Hyn: Rheolaeth yw Hyn, datblygu'r safonau gwasanaeth i gyflawnwyr yng Nghymru a'r canllawiau ar gyfer comisiynu gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) sydd wedi'u gosod gerbron y Cynulliad.