Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Rwy'n cyhoeddi heddiw yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 a gynhyrchwyd gan Yasmin Khan a Johanna Robinson, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Mae'n manylu ar yr hyn y mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi ei wneud o ran yr amcanion a osodwyd ganddyn nhw eu hunain yn eu Cynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24 fel rhan o'u gwaith parhaus i gynghori a helpu Gweinidogion Cymru i gyflawni diben Deddf Trais a Cham-drin, ac mae'n crynhoi'r sefyllfa hyd at ddiwedd Mawrth 2024.
Mae eu cyngor a'u cymorth yn hanfodol i'n helpu i gyflawni amcanion Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022-2026, gan gynnwys gweithredu ffrydiau gwaith a chamau'r Glasbrint. Mae sefydlu Panel Goroeswyr Cymru Gyfan wedi bod yn un o'r cerrig milltir mwyaf arwyddocaol i'r Cynghorwyr Cenedlaethol yn 2023-24, ac mae'n dangos ymrwymiad parhaus y Cynghorwyr i ymgynghori â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol wrth gyflawni ein nod o sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. Mae’r panel hwn, sy’n cynnwys goroeswyr trais a cham-drin o gefndiroedd amrywiol, wedi dod yn rhan annatod o'n hymdrechion i atal trais ac amddiffyn goroeswyr.
Parhaodd gwybodaeth ac arbenigedd y Cynghorwyr Cenedlaethol i sbarduno newid i ddioddefwyr, goroeswyr a'r sector arbenigol, a hoffwn ddiolch iddynt am y gefnogaeth gyson y maent wedi'i rhoi i mi a'm swyddogion drwy gydol y cyfnod adrodd.
Gellir gweld yr adroddiad yma: