Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg
Ar 2 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddogfen yn gysylltiedig â thrafodaethau masnach gydag Unol Daleithiau America (UD). Gwnaeth y Gweinidog Gwladol dros Fasnach Rhyngwladol ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin gyda’r nos ar yr 2il Fawrth, a gafodd ei ail-adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae’r ddogfen yn amlinellu amcanion y DU yn y trafodaethau masnach gyda’r UD. Mae’n cynnwys agwedd gyffredinol Llywodraeth y DU, y prif amcanion ar gyfer cytundeb masnach rydd rhwng y DU-UD, ymateb ’r ymgynighoriad cyhoeddus a gynhaliwyd y llynedd, ac asesiad cychwynnol o’r cwmpas ar gyfer effaith hirdymor y cytundeb masnach.
Mae’r dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn dangos pam yr ydym wedi pwysleisio yn gyson bwysigrwydd sicrhau perthynas mor agos â phosib gyda’r UE. Y sefyllfa orau i Lywodraeth y DU fyddai enillion o hyd at 0.16% yn y cynnyrch domestig gros dros 15 mlynedd. Ni fydd hyn yn gwneud yn iawn am y masnach a gollwyd gyda’r UE.
Mae’r trafodaethau gyda’r UD yn werth eu cael, ond ni ddylid eu rhuthro. Ni ddylent ychwaith danseilio trafodaethau Llywodraeth y DU gyda’r UE. Mae’n rhaid i gytundeb gref a chynhwysfawr gyda’r UE fod yn flaenoriaeth bendant. Y mwyaf cadarn fydd y gytundeb gyda’r UE, y lleiaf o niwed economaidd fydd i Gymru a’r DU.
Mae amcangyfrifon blaenorol Llywodraeth y DU o sefyllfa o ddim cytundeb gyda’r UE – neu o fasnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd – yn golygu colli cynnyrch domestig gros yn y DU o -9.3% dros 15 mlynedd. Mae’r enillion posibl o berthynas glos gyda’r UE yn lleihau manteision yr holl gytundebau masnach eraill y mae y DU yn eu blaenoriaethu gyda’i gilydd.
Mae’r achos amlinellol ar gyfer y DU, fodd bynnag, yn ddechrau rhesymol ar gyfer y trafodaethau. Nid yw’n gwneud consesiynau di-angen, ond mae modd ei ddehongli sawl ffordd fodd bynnag. Mae’n rhaid inni bellach fod yn rhan lawn o’r trafodaethau i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu gwarchod a’r addewidion sy’n cael eu gwneud am ein GIG, safonau bwyd a meysydd eraill yn cael eu cadw.