Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 13 Ionawr 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i lansio trafodaethau masnach gydag India. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU flaenoriaethau negodi gyda Llywodraeth India i gefnogi hyn, ac asesiad cwmpasu o'r effeithiau hirdymor ar economi'r DU pe bai cytundeb masnach yn cael ei sicrhau.
Byddai Cytundeb Masnach Rydd (CMR) llawn a chynhwysfawr o bosibl yn cryfhau perthynas y ddwy wlad ac yn cynyddu masnach a buddsoddiad. Mae asesiad cwmpasu Llywodraeth y DU yn nodi y gallai CMR ag India, yn seiliedig ar y senario fwyaf optimistaidd, gyfrannu at dwf 0.22% yng Nghynnyrch Domestig Gros y DU (GDP), sy'n cyfateb i £6.2bn, erbyn 2035. Mae hyn yn cyfateb i dwf posibl o 0.19% mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yng Nghymru, sy’n cyfateb i oddeutu £126m.
Mae Cymru ac India yn rhannu perthynas gref gyda gwerth masnach nwyddau rhwng India a Chymru oddeutu £ 278m yn y flwyddyn a ddaeth i ben Mehefin 2021. India yw'r 27ain marchnad allforio fwyaf i Gymru sy'n cyfrif am oddeutu 0.6% o allforion nwyddau Cymru a'r 18fed farchnad fewnforio fwyaf gyda thua 1.4% o gyfanswm mewnforion nwyddau Cymru yn dod o India. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi elwa o fuddsoddiad rheolaidd gan gwmnïau sydd â phencadlys yn India, gyda nifer o'r cwmnïau hyn yn ail-fuddsoddi sawl gwaith.
Rydym yn croesawu dechrau trafodaethau masnach gydag India, a allai ddod â buddion sylweddol i economi Cymru. Fodd bynnag, fel gyda phob Cytundeb Masnach Rydd (CMR), mae hefyd risg y gallai ein diwydiannau domestig gael eu heffeithio'n sylweddol pe bai Llywodraeth y DU yn methu ag ystyried sensitifrwydd y farchnad yng Nghymru fel rhan o’r trafodaethau. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU roi sicrwydd y byddai'r cytundeb terfynol yn arwain at chwarae teg ar gyfer busnesau'r DU ac India ac yn caniatáu i ni amddiffyn ein safonau uchel yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae ganddi ar hyn o bryd gynllun cenedlaethol i gyrraedd targed carbon net-sero erbyn 2050. Mae gan Lywodraeth y DU hefyd nodau tebyg ar gyfer yr amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Gall gosod nodau uchelgeisiol o fewn cytundebau masnach fod yn offeryn allweddol i gyd-fynd â’n hymrwymiadau rhyngwladol. Felly, rhaid i unrhyw CMR a sicrhawyd gyda'n partneriaid masnachu adlewyrchu ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau ni, a'r DU ehangach, ar faterion allweddol yn rhyngwladol bob amser. Er yn cydnabod bod India gyda gwahanol ymrwymiadau domestig i'r DU, ni ddylai CMR ac India leihau statws ac enw da byd-eang y DU ar faterion amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd. Ni ddylai chwaith, olygu anfantais i’r DU o ran trafodaethau CMR yn y dyfodol, neu effaith ar ein gallu i gyflawni ein nodau yn ddomestig.
Hyd yma mae ein perthynas â Llywodraeth y DU ar drafodaethau CMR wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Disgwyliwn adeiladu ar hyn wrth symud ymlaen fel y gallwn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried, a bod Llywodraeth y DU yn gallu negodi bargen sy'n gweithio i bob rhan o'r DU.