Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 20 Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i lansio trafodaethau masnach gyda Mecsico. Cytunodd y DU a Mecsico ar Gytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Masnach y llynedd, a bydd y cytundeb hwnnw ar waith yn y cyfnod interim tan i gytundeb masnach rydd cynhwysfawr gael ei sefydlu.
Mae cryn dipyn o fasnachu eisoes rhwng y DU a Mecsico ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mesurau i sicrhau cynnydd yn y fasnach honno. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2021, Mecsico oedd y 36ain farchnad allforio fwyaf oedd gan Gymru, gan gyfrif am tua 0.4% o’r nwyddau a allforiwyd o Gymru. Mecsico hefyd oedd y 53ain marchnad fewnforio fwyaf, gyda thua 0.2% o gyfanswm y nwyddau a fewnforiwyd i Gymru yn dod o Fecsico.
Bydd y trafodaethau'n gyfle i greu sicrwydd ar gyfer busnesau a bydd yn eu galluogi i archwilio trefniadau newydd ar gyfer masnach o ran nwyddau a gwasanaethau, gan sicrhau parhad elfennau o’r cytundeb presennol a fyddai fel arall yn dod i ben dros y blynyddoedd nesaf.
Byddwn yn cysylltu ac yn trafod ag ystod eang o randdeiliaid er mwyn deall yr effeithiau y gallai unrhyw gytundeb masnach eu cael ar sectorau yng Nghymru, a hefyd er mwyn nodi cyfleoedd posibl i gynhyrchwyr o Gymru yn y trafodaethau sydd ar y gweill.