Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i lansio trafodaethau masnach gyda Chanada. Cytunodd y DU a Chanada ar Gytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Chanada y llynedd, a bydd y cytundeb hwnnw ar waith yn y cyfnod interim tan i gytundeb masnach rydd cynhwysfawr gael ei sefydlu.

Mae cryn dipyn o fasnachu eisoes rhwng y DU a Chanada ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mesurau i sicrhau cynnydd yn y fasnach honno. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, Canada oedd y 10fed farchnad allforio fwyaf oedd gan Gymru, gan gyfrif am tua 2.2% o’r nwyddau a allforiwyd o Gymru. Canada hefyd oedd y 14eg farchnad fewnforio fwyaf, gyda thua 2.1% o gyfanswm y nwyddau a fewnforiwyd i Gymru yn dod o Ganada.

Bydd y trafodaethau'n gyfle i sicrhau trefniadau newydd ar gyfer masnachu, neu barhad y trefniadau presennol a fyddai, fel arall, yn dod i ben yn ystod y blynyddoedd nesaf. Byddai cynnal sefyllfa lle na chodir tariff o gwbl ar nwyddau diwydiannol, yn ogystal â gallu'r DU a Chanada i gyfuno deunyddiau a phrosesu'r UE, yn cadw’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ac sy'n cael eu defnyddio gan fusnesau Cymru mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Rydym hefyd yn obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau trefniadau newydd a fydd yn caniatáu mynediad parhaus i'r farchnad i'n cynhyrchwyr caws.

Rydym eisoes wedi codi rhai pryderon gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig o ran yr angen iddi, wrth fynd ati i negodi Cytundebau Masnach Rydd newydd, sicrhau tegwch i’n cynhyrchwyr amaethyddol o ran eu gallu i barhau i gystadlu. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi'r achos dros fasnach ryngwladol ac yn cydnabod y manteision y gall cytundebau masnach eu cynnig. Fodd bynnag, ni ddylai Cytundebau Masnach Rydd newydd arwain at fanteision i rannau eraill o'r DU ar draul colledion i Gymru.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cysylltu ac yn trafod ag ystod eang o randdeiliaid er mwyn deall yr effeithiau y gallai cytundeb masnach eu cael ar eu sectorau, a hefyd er mwyn nodi cyfleoedd posibl i gynhyrchwyr o Gymru yn y trafodaethau sydd ar y gweill.