Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Mawrth eleni pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi’r grym i’r Cynulliad greu Deddfau’r Cynulliad ar yr holl bynciau o fewn yr 20 maes datganoledig.

Rydym ni fel llywodraeth wedi datgan o’r blaen y byddai’r cwestiwn ynghylch a ddylai Cymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn dod yn amlycach pe bai yna bleidlais ‘ie’ yn y refferendwm.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a minnau yn gytûn nad mater i wleidyddion a gweision sifil ei drafod yn unig yw hwn. Rhaid i’r drafodaeth fod yn llawer ehangach na hynny, ac mae angen i ni gasglu’r amrywiaeth ehangaf posibl o safbwyntiau, ac nid o du’r gymuned gyfreithiol yn unig.

Mae angen i ni fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym ni’n ei olygu wrth sôn am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. Beth sy’n ofynnol er mwyn i hynny ddigwydd? Beth fydd y goblygiadau? Pa fanteision allai hyn eu cynnig i bobl Cymru?

Yn gynnar y flwyddyn nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaeth gyhoeddus ar y mater hwn. Byddwn yn dechrau drwy wahodd y safbwyntiau ehangaf posibl o fewn Cymru a’r tu allan iddi. Bydd yr ymatebion a dderbyniwn yn helpu i lywio barn Llywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer gwaith y Comisiwn ar setliad datganoli Cymru, y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ei benodi’n fuan. Rhoddir croeso arbennig i sylwadau Aelodau’r Cynulliad ar y materion hyn, wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen.