Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Mae tua traean o’n poblogaeth yn byw mewn cymunedau cefn gwlad, ar wasgar ar draws y wlad. Mae sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, diogel a dibynadwy iddynt yn angenrheidiol, nid yn unig er mwyn cyflawni’n hamcanion newid hinsawdd ond hefyd iddynt allu defnyddio’r gwasanaethau a manteisio ar y cyfleoedd gwaith, diwylliannol ac addysgol sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Roedd yn bleser felly cynnal cyfres o gyfarfodydd ford gron gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac arbenigwyr trafnidiaeth o bob rhan o Gymru ddiwedd llynedd i drafod ein cynlluniau’n fanylach a hoffwn ddiolch iddynt am ein helpu ar y trywydd hwnnw.
Rydyn ni’n cydnabod bod y drafnidiaeth sydd ei hangen ar gymunedau cefn gwlad yn wahanol i’r rheini mewn ardaloedd mwy trefol ac mae’n bwysig gweithio gyda’r cymunedau hyn i gynllunio’r mathau o wasanaethau cludiant cyhoeddus y bydd eu hangen arnynt. Mae anghenion pawb yn wahanol; bydd gan bob cymuned ei gofynion a’i heriau ei hun fydd yn effeithio ar beth fyddai’n gweithio orau i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi.
Roedd yn dda gweld bod Comisiwn Trafnidiaeth y Gogledd yn canolbwyntio ar drafnidiaeth wledig, gan nodi’r angen i flaenoriaethu cynlluniau fyddai’n delio’n well â chysylltu ardaloedd gwledig â’i gilydd. Mae’n argymell fod angen mwy o opsiynau teithio cynaliadwy newydd fel clybiau ceir, rhannu ceir, beiciau nwyddau, e-sgwteri ac e-feiciau. Mae’n awgrymu hefyd y dylid ystyried cynlluniau teithio i’r gwaith effeithiol fel cam cyntaf i bobl allu meddwl a gweithredu’n wahanol o ran sut i deithio.
Mae Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – yn disgrifio sut yr ydym am ddatblygu cyfres o ‘lwybrau’ sy’n ymdrin â phynciau o bwys strategol. Bydd y llwybrau hynny’n rhychwantu dulliau teithio a sectorau gwahanol, ac yn dod â’n hymrwymiadau a’n cynlluniau yn y pynciau hyn ynghyd mewn ffordd fydd yn ei gwneud yn rhwydd i bobl ddilyn hynt y gwaith rydym ni fel Llywodraeth Cymru gyda’n partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ei wneud.
Mae’n hanfodol ein bod yn chwilio am fodelau trafnidiaeth gyhoeddus cynaliadwy fydd yn diwallu anghenion cymunedau gwledig ond a fydd hefyd yn cysylltu â’r rhwydweithiau trefol er mwyn i bobl allu teithio rhwng tref a gwlad â chyn lleied o drafferth â phosibl.
Mae ein Llwybr Gwledig yn gynllun cynhwysfawr fydd yn helpu’r rheini yn y cymunedau mwyaf diarffordd i deithio i’w tref neu bentref lleol. Oddi yno, bydd dewis helaethach o opsiynau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus i deithio yn yr ardal neu i’w cysylltu â’r gyfnewidfa trafnidiaeth agosaf ar gyfer teithiau hwy.
Rydym wrthi eisoes yn datblygu ac yn cynnal ein Llwybr Gwledig. Byddwn yn cyflwyno cynnig cyn hir i Gronfa Cysylltu’r Undeb Llywodraeth y DU i ddatblygu cynlluniau i gynyddu capasiti rheilffyrdd Cambria a Chalon Cymru, gan gynyddu’r cysylltiadau o bob tu’r ffin.
Gan weithio gyda Sustrans, mae’n peilot E-Symud wedi dangos bod gan gynlluniau yn y tymor canolig i fenthyca e-feiciau ac e-feiciau nwyddau botensial i helpu cymunedau lleol. Byddwn yn datblygu cynlluniau mwy tymor hir i helpu pobl i ddefnyddio e-feiciau ar gyfer teithiau lleol ledled Cymru, gan gynnwys help i’w prynu.
Mae’r gwasanaeth Sherpa newydd yn Eryri lle mae bysiau wedi lleihau’r defnydd o geir yn y Parc Cenedlaethol, eisoes yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl leol ac ymwelwyr i weld Eryri mewn ffordd newydd a gwyrddach. Byddwn am fynd â chynlluniau o’r fath i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol eraill yng Nghymru.
Bysiau yw asgwrn cefn ein gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw’n cario dair gwaith gymaint o deithwyr â’r trenau, gan fynd â phobl ledled Cymru i’w gwaith ac i’r ysgol, i gwrdd â theulu a ffrindiau ac maen nhw’n achubiaeth i bobl sydd heb gar. Bydd ein deddfwriaeth i ddiwygio’r bysiau’n ei gwneud yn bosib i ni greu a rheoli system fysiau fydd yn gweithredu er lles pobl, ac nid ar y llwybrau sy’n talu ffordd yn unig.
Yn ogystal â thechnolegau newydd, bydd modelau gwasanaethu newydd yn bwysig i bobl allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd ac ar adegau sy’n ateb eu gofynion nhw orau. Mae ein treialon gyda bysiau Fflecsi wedi dangos bod trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw yn gallu arwain at wasanaeth mwy hyblyg sy’n addasu yn ôl y galw, gyda llwyddiant arbennig mewn cymunedau gwledig. Byddwn yn edrych yn ofalus ar ganlyniadau’r peilot ac yn eu hymgorffori yn ein fframwaith llwybrau gwledig er mwyn i ranbarthau Cymru allu ei ddefnyddio.
Mae clybiau ceir trydan yn ffordd newydd arall o ddefnyddio ceir; i’r rheini sydd am ddefnyddio llai ar y car neu ei ddefnyddio nawr ac yn man yn unig, ac i’r rheini sy’n gweld costau rhedeg car yn faich drud. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Powys, Trafnidiaeth Cymru a nifer o bartneriaid i weld sut y gallwn ddarparu mwy o glybiau ceir yn y gymuned.
Mae trafnidiaeth gymunedol yn rhan bwysig o’n system drafnidiaeth yng Nghymru ac yn helpu pobl fregus i gael at wasanaethau hanfodol. Trwy Drafnidiaeth Cymru, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid mewn trafnidiaeth gymunedol i weld sut orau i helpu’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn ac i’r bobl sy’n rhoi o’u hamser i’w drefnu.
Rydym yn deall mor bwysig yw’r rhwydwaith ffyrdd strategol i gefn gwlad Cymru. Mae’n heolydd yn asedau pwysig a rhaid eu cynnal. Maen nhw’n hanfodol hefyd wrth newid i deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yr arolwg annibynnol ar y ffyrdd cyn hir a hefyd ein safbwynt o ran buddsoddi yn y ffyrdd yn y dyfodol, er mwyn gwneud yn siŵr bod prosiectau’n cyd-fynd ag uchelgeisiau a blaenoriaethau’r strategaeth drafnidiaeth.
Bydd ein cyfres o ‘lwybrau’ yn creu fframwaith hefyd ar gyfer helpu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol rhanbarthol i ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin, y Canolbarth a’r De-ddwyrain. Bydd yn gyfrwng i bob rhanbarth nodi’r dewis o gamau y gallan nhw eu cymryd, a’u cymryd mewn ffordd sy’n gyson â Llwybr Newydd. Byddan nhw’n fframweithiau byw, fydd yn cael eu diweddaru wrth i ni ddatblygu a phrofi gwasanaethau a seilwaith newydd ac arloesol.
Rydym yn dilyn Llwybr Newydd – yn llythrennol. Mae Strategaeth Trafnidiaeth Cymru’n disgrifio ffordd newydd o feddwl sy’n rhoi pobl a’r newid yn yr hinsawdd wrth galon ein system drafnidiaeth. Nid oes gennym ddewis ond gwneud hyn; er mwyn achub bywydau ein plant, rhaid i ni fod yn sero-net erbyn 2050. Ac er mwyn gallu gwneud hynny, rhaid newid ein ffordd o deithio a chwyldroi’r system er mwyn iddi allu hwyluso hynny. Ein llwybr gwledig yw un o’r camau niferus y bydd yn rhaid eu cymryd ar y daith i gyrraedd y nod hwnnw.