Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nodir amcanion cyffredinol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.

Rwy’n credu’n glir bod trafnidiaeth yn hollbwysig os ydym i wneud economi Cymru’n fwy cystadleuol a rhoi gwell mynediad at swyddi a gwasanaethau.

Rwy’n ystyried bod trafnidiaeth yn allweddol i gyflawni llawer o flaenoriaethau’r Llywodraeth a’i Rhaglen Lywodraethu. Wrth feddwl am drafnidiaeth, rwy’n cydnabod bod rhaid inni ganolbwyntio ar anghenion busnesau, pobl a chymunedau ac rwy’n bwriadu sicrhau bod Cymru’n meithrin cysylltiadau rhagorol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnig mynediad at fasnach, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau. Rwy’n credu hefyd bod systemau trafnidiaeth fforddiadwy, effeithiol ac effeithlon yn gallu chwarae rhan bwysig wrth helpu i drechu tlodi.

Ers i mi ddod yn gyfrifol am y portffolio trafnidiaeth, rwyf wedi cael cyfle i adolygu’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth er mwyn ystyried sut y gall ategu fy mlaenoriaethau ehangach o ran datblygu’r economi. Rwyf wedi nodi cyfleoedd newydd i ddatrys problemau trafnidiaeth ac wedi ystyried yr adborth a gefais gan y gymuned fusnes a phartneriaid eraill. Hefyd, mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch opsiynau cyllid wedi esgor ar gyfleoedd newydd nad oeddent ar gael inni o’r blaen.

Mae’r datganiad hwn yn nodi rhai prosiectau ffyrdd allweddol i’w cyflawni yn ystod gweddill cyfnod y Cynulliad hwn, gan gydnabod y bydd eu cynnydd yn ddibynnol ar gael cydsyniadau statudol a digon o gyllid. Rwy’n bwriadu rhoi diweddariad pellach i Aelodau’r Cynulliad am ein blaenoriaethau ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd cyn toriad yr haf.

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig eisoes ar 26 Mehefin ynghylch fy mwriad i ymgynghori ar gynllun drafft ac asesiadau cysylltiedig ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd ym mis Medi. O’i gyflawni, byddai’r cynllun hwn yn arwain at adeiladu traffordd i’r de o Gasnewydd gan ddatrys rhai o’r problemau capasiti a thagfeydd ar y brif ffordd gyswllt allweddol hon, y cydnabyddir yn eang ei bod yn allweddol i economi Cymru.

Yn ychwanegol, rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r cynlluniau ar gyfer ffordd Gyswllt Ddwyreiniol Bae Caerdydd ac uwchraddio Cyffordd 28 ar yr M4. Mae’r prosiectau hyn yn bwysig ar gyfer gwella’r mynediad i Ardal Fenter Canol Caerdydd a gwella’r cysylltiadau o fewn y dinas-ranbarth.

Mae’r A465 yn flaenoriaeth o hyd a byddaf yn bwrw ymlaen â’r camau nesaf ar gyfer deuoli’r ffordd hon, o gofio ei phwysigrwydd strategol i Flaenau’r Cymoedd, Ardal Fenter Glynebwy ac fel cyswllt cenedlaethol a rhyngwladol.

Er mwyn gwella’r mynediad at Ardal Fenter Sain Tathan Maes Awyr Caerdydd, byddaf yn ariannu gwelliannau i Five Mile Lane.  

Byddaf yn parhau â’r cynlluniau adeiladu allweddol sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys gwelliannau i’r A477 Sanclêr i Ros-goch; yr A470 yng Ngelligemlyn a Maes yr Helmau – Cross Foxes; yr A487 yng Nglandyfi a’r A465 Brynmawr i Dredegar.  

Byddaf yn dal ati hefyd â’r cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi’r Drenewydd A483/A489 a’r A487 Caernarfon-Bontnewydd – yn wir, rwyf wedi gwneud cyhoeddiadau am y ffyrdd osgoi hyn yn ddiweddar.

Byddaf yn neilltuo cyllid ar gyfer datblygu cynlluniau eraill hefyd, gan gynnwys camau nesaf yr astudiaethau ar wella’r A494, yr A40 a phont Dyfi.  

Mae’r prosiectau mawr hyn yn bwysig ond  daeth yn amlwg wrth i mi wrth siarad â busnesau a phobl ar draws Cymru bod angen gwelliannau bach wedi’u targedu’n briodol hefyd, i fynd i’r afael â mannau cyfyng sy’n achosi problemau ar ein ffyrdd a gwella effeithlonrwydd y rhwydwaith ledled Cymru. Mae potensial i wneud gwahaniaeth go iawn yma.   Cyflawnir y gwelliannau canlynol dros y ddwy flynedd nesaf:

  • M4 Port Talbot Cyffordd 40 – 41
  • A483 i leddfu tagfeydd yng nghanol y Drenewydd
  • M4 Cyffordd 32 Coryton – ffordd ymadael 
  • A55 llochesi argyfwng
  • M4 C33 ffordd ymadael

Yn ychwanegol, bwriedir cynnal rhagor o astudiaethau ar fannau cyfyng eraill dros y flwyddyn nesaf, yn benodol:

  • A487 astudiaeth o systemau draenio Pont Dyfi
  • A55 astudiaeth o dagfeydd Pont Britannia


Bydd rhagor o brosiectau’n dilyn dros y blynyddoedd nesaf.

Byddaf yn sicrhau rhwydd hynt i restr o brosiectau eraill arfaethedig wrth i’r cyllid ddod ar gael.

Rwyf wedi gwneud cais hefyd am ystyriaeth i weld a ddylid ychwanegu rhai ffyrdd a rhannau o ffyrdd at y Rhwydwaith Cefnffyrdd er mwyn cydnabod eu pwysigrwydd strategol cenedlaethol. Bydd y ffyrdd hyn yn cefnogi Ardaloedd Menter ac yn darparu cysylltiadau di-dor o ddechrau’r daith i’r diwedd, yn ogystal â hybu twristiaeth a chanolfannau masnach a busnes ac atgyfnerthu’r Rhwydwaith Cefnffyrdd. Rwyf wedi gofyn am gael dechrau trafod gyda’r Awdurdodau Lleol i ailddiffinio Rhwydwaith Cefnffyrdd Cymru.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus y modd y gall buddsoddi mewn trafnidiaeth helpu i hybu datblygiad yr Ardaloedd Menter.

Fel y nodwyd uchod, mae ffordd gyswllt Dwyrain Bae Caerdydd a gwelliannau ar hyd yr M4 yn bwysig iawn ar gyfer llwyddiant Ardal Fenter Canol Caerdydd. Yn yr un modd, bydd gwelliannau i Five Mile Lane a datblygu gorsaf reilffordd newydd ac estyniad i linell Glynebwy yn fanteisiol i Ardaloedd Menter Sain Tathan - Maes Awyr Caerdydd a Glynebwy.

Mae Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau wedi pennu y dylid rhoi blaenoriaeth i wella’r A40, ac mae’n fwriad gen i ddatblygu ymhellach y gwelliannau a gynigiwyd eisoes. Byddaf hefyd yn cynnal astudiaethau pellach ar yr opsiynau ar gyfer gwella’r A494 sy’n bwysig i Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.

Mae’r achos busnes wrthi’n cael ei baratoi ar gyfer moderneiddio rheilffordd Gogledd Cymru a gwella’r A55 hefyd, gan gynnwys twnelau Conwy, a bydd hynny’n siŵr o gefnogi dyheadau Byrddau Ardaloedd Menter Glannau Dyfrdwy, Eryri ac Ynys Môn.

Yn fwy cyffredinol, rwy’n buddsoddi’n sylweddol yn y gwasanaethau bws a rheilffordd ac mewn mesurau diogelwch ar y ffyrdd a theithio actif. Wrth fuddsoddi, rwyf bob amser yn ceisio cael y gwerth gorau am arian a sicrhau ein bod yn elwa i’r eithaf. Cewch ragor o wybodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd a chanlyniad gwaith Tasglu Trafnidiaeth Integredig Gogledd-ddwyrain Cymru cyn toriad yr haf.

Rwy’n ffyddiog y bydd y mesurau trafnidiaeth hyn yn rhoi sylfaen cadarn ar gyfer cryfhau economi Cymru.