Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, AC Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis diwethaf rhoddais y diweddaraf i'r aelodau ar Thomas Cook ar ôl iddo fynd i'r wal ar 23 Medi. Ers hynny rwyf i a'm swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth y DU a sefydliadau eraill, ac rydym wedi bod yn rhan o drafodaethau rheolaidd ym mhwyllgor Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet fel rhan o'r rhaglen ddychwelyd pobl. Rydym wedi chwarae rhan weithredol yn y Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Thomas Cook sy'n casglu gwybodaeth a chamau gweithredu'r Llywodraeth ar effaith economaidd Thomas Cook a cholli swyddi.

Gwnaeth y daith hedfan olaf i ddychwelyd pobl lanio ym Manceinion ar 7 Hydref. Gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gwnaeth yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), drefnu cyfanswm o 746 o deithiau hedfan a dychwelyd dros 140,000 o deithwyr. Nid tasg hawdd oedd hon. Rwy'n ddiolchgar am broffesiynoldeb a chyflymder y CAA yn ystod y cyfnod hwn.

Bellach mae'r CAA wedi lansio ffurflenni hawlio ad-daliad ar-lein i gwsmeriaid a effeithiwyd gan ddiddymiad Thomas Cook. Bydd y ffurflenni hyn yn cael eu defnyddio i ad-dalu mwy na 360,000 o archebion ar gyfer gwyliau Thomas Cook wedi'u gwarchod gan ATOL, gan gynnwys teithiau a fyddai wedi’u gwneud gan 800,000 o bobl. Gellir dod o hyd i'r manylion ar https://thomascook.caa.co.uk/refunds/

Gallaf hefyd gadarnhau fod Hays Travel Limited wedi prynu 555 o safleoedd manwerthu Thomas Cook ac wedi recriwtio dros 400 o gyn weithwyr Thomas Cook. Rwyf wedi ysgrifennu at John Hays, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn gofyn am fwy o fanylion ynghylch ei gynlluniau ar gyfer y safleoedd manwerthu a'r cyn weithwyr yma yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar am nifer y cwmnïau asiantaethau teithio yng Nghymru sydd wedi cynnal diwrnodau recriwtio ar gyfer gweithwyr Thomas Cook.