Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 23 Medi, roedd Thomas Cook UK PLC ac endidau cysylltiedig yn y DU wedi rhoi'r gorau i fasnachu ac wedi'u diddymu'n orfodol sy'n golygu bod pob archeb, gan gynnwys teithiau hedfan a gwyliau, wedi'i ganslo. Mae hyn yn newyddion hynod siomedig ac rwy'n poeni am y rheini yr effeithir arnynt. Mae fy swyddogion a minnau yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a sefydliadau eraill ac wedi bod yn rhan o’r trafodaethau rheolaidd ym mhwyllgor Ystafell Friffio Swyddfa’r Cabinet (COBR).

Mae Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi lansio ymarfer ail-wladoli ar gyfer 150,000 o deithwyr y DU sydd dramor. Bydd yr holl gwsmeriaid sydd dramor ar hyn o bryd sydd wedi trefnu dychwelyd i'r DU yn ystod y pythefnos nesaf yn teithio mor agos â phosibl i'r dyddiad dychwelyd a drefnwyd yn wreiddiol ganddynt.

Cynghorir cwsmeriaid yn gryf i beidio â cheisio dychwelyd ynghynt na mynd i'r maes awyr heb wirio ar wefan y CAA am y daith adref. Mae'r CAA hefyd yn cysylltu â gwestai sy'n lletya cwsmeriaid Thomas Cook sydd wedi archebu gwyliau fel rhan o becyn, i ddweud wrthynt y bydd Llywodraeth y DU yn talu costau'r llety hefyd. Ni ddylai cwsmeriaid nad ydynt eisoes wedi gadael y DU fynd i'r maes awyr, gan na fydd Thomas Cook yn gweithredu unrhyw deithiau hedfan allan o'r wlad a bydd gwefan y CAA yn rhoi gwybod i gwsmeriaid sut y gallant gael eu harian yn ôl.

Cyngor i gwsmeriaid sydd wedi trefnu hedfan o Gaerdydd gyda Thomas Cook

  • Cynghorir cwsmeriaid i beidio â mynd i'r maes awyr.
  • Dilynwch y cyngor a gynigir gan y CAA.
  • Mae TUI yn parhau i weithredu teithiau hedfan i Antalya, Dalaman, Enfidha, Larnaca, Palma, Reus, Rhodes, Tenerife, Zakynthos ac Arrecife, tra bo Vueling Airlines hefyd yn gweithredu gwasanaeth rheolaidd i Palma.
  • Gall cwsmeriaid a oedd wedi trefnu hedfan o Gaerdydd ddoe ac sydd heb archebu a thalu am le mewn maes parcio ymlaen llaw adael y meysydd parcio yn ddi-dâl.
  • Dylai cwsmeriaid a oedd wedi trefnu hedfan o Gaerdydd ddoe ac sydd wedi archebu a thalu am le mewn maes parcio ymlaen llaw gysylltu â'r cwmni a ddefnyddiwyd i wneud yr archeb.

Cyngor i gwsmeriaid sydd wedi trefnu dychwelyd i Gaerdydd gyda Thomas Cook

  • Ni fydd y daith adref gyda Thomas Cook yn cael ei gweithredu fel y bwriadwyd.
  • Dilynwch y cyngor a gynigir gan y CAA a fydd yn darparu canllawiau clir ar opsiynau teithio amgen.
  • Bydd cwsmeriaid sy'n dychwelyd i'r DU ar ôl y dyddiad dychwelyd disgwyliedig yn cael eu heithrio rhag talu unrhyw ffioedd parcio ychwanegol.

Ar 1 Mai 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru Cymru'n Gweithio, sef gwasanaeth cynghori newydd ar gyfer Cymru gyfan i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn i gefnogi pobl i ddod o hyd i waith. Rydym wedi sicrhau bod gan Gyrfa Cymru, sy'n darparu Cymru'n Gweithio, fwy o gapasiti i ddarparu cyngor ac i gyfeirio unigolion at y cymorth cywir, a'i fod yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Waith a phartneriaid allweddol eraill. Bydd cyngor a chyfarwyddyd yn cael eu cynnig wyneb yn wyneb yn swyddfeydd Gyrfa Cymru, mewn canolfannau gwaith lleol ac mewn hybiau cymunedol, yn ogystal â thros y ffôn, drwy gyfrwng cyfleusterau sgwrsio ac ar-lein. 

Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol ar adegau o ansicrwydd economaidd ac felly, rydym wedi ehangu'r modd y darperir rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael yn ystod y cyfnod interim. Bydd hyn yn cynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru, Mynediad, Hyfforddeiaethau a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i unrhyw fusnes ar draws Cymru y mae'r datblygiad hwn yn effeithio arno a gellir eu gweld ar-lein ar  https://businesswales.gov.wales/cy a sianeli cysylltiedig y cyfryngau cymdeithasol; llinell gymorth 03000 6 03000 a rhwydwaith o swyddfeydd ledled Cymru.

Mae fy swyddogion yn cadw cysylltiad agos â Maes Awyr Caerdydd ac mae colli unrhyw gwmni hedfan o hyd yn drist. Mae ein dull o gynllunio ariannol a dadansoddi economaidd wedi'i fodelu ar sawl senario gan gynnwys methiant cwmni hedfan. Er bod newyddion ddoe yn cyflwyno sawl her i Faes Awyr Caerdydd, disgwylir y bydd yr effaith yn gyfyngedig. Fodd bynnag, mae'n ddyddiau cynnar ac mae'r sefyllfa yn dal i fod yn ansefydlog, felly byddwn yn parhau i weithio gyda'r maes awyr tra bo'r sefyllfa yn esblygu.

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth:

thomascook.caa.co.uk

0300 303 2800 (DU)

+44 01753 330 330 (Tramor)

Os bydd rhywbeth o bwys yn newid, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau.