Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft, gan gynnwys yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer patrwm Awdurdodau Lleol Cymru yn y dyfodol, i ben ar 15 Chwefror. Cafwyd 187 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth o randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd. Ymatebodd 21 o awdurdodau lleol.  

Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a gyflawnodd waith craffu ar y Bil Drafft cyn y broses ddeddfu, am eu cyfraniad i'r broses.  

Mae'r Bil Drafft yn seiliedig ar y cynigion a geir yn y Papurau Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol', a 'Comisiwn Staff i'r Gwasanaethau Cyhoeddus'. Fe ddernynion ni gannoedd o ymatebion i’r ymgynghoriadau ar y ddau Bapur Gwyn.  

Mae swyddogion wedi gwneud dadansoddiad cychwynnol o'r ymatebion. Mae'r dadansoddiad hwnnw'n awgrymu bod cefnogaeth i egwyddorion cyffredinol llawer o ddarpariaethau'r Bil Drafft, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd mewn Llywodraeth Leol a'r pŵer cymhwysedd cyffredinol.

Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch rhai darpariaethau, gan gynnwys Dyletswyddau ar Aelodau Etholedig o Gynghorau Sir a'r rhai sy'n ymwneud â Llywodraethu yn Well. Bydd y darpariaethau hyn yn cael eu hystyried ymhellach. Roedd ymatebwyr yn cefnogi'r egwyddor y dylid cael cyswllt effeithiol  rhwng awdurdodau lleol mwy â'u cymunedau, ond mynegwyd pryder a fyddai pwyllgorau ardaloedd cymunedol yn sicrhau bod gan gymunedau lais effeithiol ac yn herio gweithrediaeth y Cyngor yn ddigonol. Rwyf, felly, wedi gofyn i swyddogion ailedrych ar y darpariaethau gan gadw'r egwyddorion hyn mewn cof.

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddais pa opsiwn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio o ran patrwm  Llywodraeth Leol yng Nghymru yn y dyfodol.  Cyhoeddwyd dau fap a oedd yn dangos yr opsiwn a ffefrid o ran y strwythur yn y De, y Canolbarth a'r Gorllewin yn y dyfodol, gyda dau opsiwn (dau neu dri Awdurdod Lleol) yn y Gogledd. Mae'r dadansoddiad cychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos bod y farn ar ein cynnig i leihau nifer yr Awdurdodau Lleol yn amrywio'n sylweddol ac nad oes barn gyffredin ynghylch y strwythur yn y dyfodol.

Roedd y ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Bil Drafft yn cynnwys cynigion ychwanegol ynghylch polisi.  Cafwyd amrywiaeth o sylwadau gan ymatebwyr ynghylch y cynigion i ddiddymu pleidleisiau cymunedol a chyflwyno system e-ddeisebau yn eu lle. Ni fydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r rheolau cyfredol ar gyfer cynnal pleidleisiau cymunedol tra bo'r sylwadau hyn yn cael eu hystyried.

Bydd yr ymatebion, a sylwadau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn cael eu dadansoddi ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf.  Cyhoeddir crynodeb llawn o'r ymatebion ar ôl etholiadau'r Cynulliad. Mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd penderfynu  sut mae'n dymuno symud ymlaen, gyda'r fantais o gael dealltwriaeth lawn o farn rhanddeiliaid.