Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Roedd TGAU Saesneg Iaith yn destun cryn bryder yn 2012, ac yn dilyn yr adroddiad "Saesneg Iaith TGAU 2012 – ymchwiliad i ganlyniadau ymgeiswyr yng Nghymru", y cyhoeddais ym mis Medi y llynedd, rhoddais Gyfarwyddyd i CBAC ailraddio'r cymhwyster ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru.
Mae fy swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda CBAC a'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual) yn Lloegr ynghylch dyfarnu yn 2013. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau. Yn y cyfamser, rwyf bellach wedi cytuno ar bedwar Amod Cydnabod newydd ar gyfer sefydliadau dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau yng Nghymru. Dyma'r rheolau y mae'n rhaid i sefydliadau dyfarnu sy'n cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru i ddyfarnu cymwysterau yng Nghymru eu dilyn.
Bydd y tri Amod Cydnabod cyntaf yn sicrhau bod yn rhaid i sefydliadau dyfarnu:
- farcio arholiadau a chymedroli asesiadau dan reolaeth ar gyfer unedau mis Ionawr, ond ni ddylent ddyfarnu graddau uned ar gyfer unedau mis Ionawr. Caiff holl farciau mis Ionawr eu hystyried mewn cyfarfodydd dyfarnu yn yr haf, ynghyd â marciau asesiadau dan reolaeth ac arholiadau’r haf;
- gosod asesiadau ar wahân ar gyfer dysgwyr yng Nghymru sy'n gwneud unedau TGAU Saesneg Iaith ym mis Mehefin 2013, lle disgwylir mwy na 5000 o ymgeiswyr;
- cynnal cyfarfodydd dyfarnu ar wahân ar gyfer y dysgwyr hynny yng Nghymru (yn hytrach na dysgwyr mewn unrhyw wlad arall) a gosod terfynau graddau sy'n arwain at ganlyniadau y gellir eu cymharu â 2011, lle disgwylir mwy na 5000 o ymgeiswyr.
Hefyd, bydd y pedwerydd Amod Cydnabod newydd yn ei gwneud yn ofynnol i CBAC roi un tystysgrif i bob ymgeisydd yng Nghymru. Bydd y tystysgrifau'n cynnwys pob TGAU CBAC sydd wedi'i ddyfarnu i bob ymgeisydd a dim ond logos Llywodraeth Cymru a CBAC fydd ar y tystysgrifau hyn.
Mae'r cyntaf o'r amodau newydd hyn yn sicrhau na fydd y materion oedd wrth wraidd dyfarniad yr Adolygiad Barnwrol yn Lloegr ar 13 Chwefror ynghylch newid terfynau graddau rhwng asesiadau mis Ionawr a mis Mehefin yn codi eto yn 2013. Bydd yr ail a'r trydydd o'r amodau newydd yn sicrhau y bydd dyfarnu cymwysterau TGAU Saesneg Iaith CBAC yn digwydd ar wahân i'r trefniadau ar gyfer Saesneg Iaith yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod methodoleg briodol yn cael ei defnyddio yn 2013 ar gyfer penderfynu ar derfynau graddau ymgeiswyr CBAC yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad "Saesneg Iaith TGAU 2012 – ymchwiliad i ganlyniadau ymgeiswyr yng Nghymru" yn nodi'n glir y dylid gwneud penderfyniadau dyfarnu ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru ar sail data sy'n berthnasol i Gymru. Mae'r trefniadau rwyf wedi cytuno arnynt yn gwneud hynny'n bosibl ar gyfer dyfarniadau yn 2013.
Mae'r pedwerydd amod newydd yn ymwneud ag ardystio. Mae'n darparu ar gyfer trefniadau ardystio sy'n gyson â'r rheini a oedd yn ofynnol yn 2012, yn dilyn ailraddio cymhwyster TGAU Saesneg Iaith CBAC ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru. Mae hefyd yn ystyried yr angen am ardystio ar wahân o 2014 ymlaen, pan fydd TGAU mwy penodol i Gymru yn cael eu dyfarnu yn sgil y polisïau gwahanol yng Nghymru a Lloegr ynghylch asesu modiwlar a llinol. Mae'r cam gweithredu hwn hefyd yn cyd-fynd â'r trefniadau y bydd eu hangen yn y dyfodol, ar ôl sefydlu Cymwysterau Cymru fel yr unig ddarparwr ar gyfer mwyafrif y cymwysterau cyffredinol yng Nghymru.
Mae TGAU Saesneg Iaith yn gymhwyster allweddol. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn hyderus y byddant yn cael y graddau y mae'u gwaith yn ei haeddu, a bod rhanddeiliaid eraill hefyd fod yn hyderus ynglŷn â hyn. Mae'r trefniadau rwyf wedi cytuno arnynt yn sefydlu'r fframwaith i sicrhau bod hyn yn digwydd.