Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson o ran yr egwyddor mai cefnogi myfyrwyr gyda chostau byw o ddydd i ddydd yw ein prif flaenoriaeth wrth sicrhau bod pawb, beth bynnag eu cefndir, yn gallu cael mynediad i brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn parhau i gynnig y lefel uchaf yn y DU o gymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr, o bell ffordd. Cynyddodd y cymorth a ddarperir i bob myfyriwr israddedig yn sylweddol ym mlwyddyn academaidd 2023/24 i adlewyrchu'r heriau a oedd yn wynebu myfyrwyr yn ystod yr argyfwng costau byw. Er gwaethaf cyfyngiadau sylweddol ar y gyllideb eleni, gallaf gadarnhau y bydd y cymorth yn cynyddu unwaith eto ar gyfer pob myfyriwr israddedig cymwys ym mlwyddyn academaidd 2024/25.
Bydd y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr israddedig cymwys o Gymru yn cynyddu 3.7%. Bydd y gyfradd uwch hon o gymorth ar gael i fyfyrwyr newydd. Bydd hefyd ar gael i'r rhai sy'n parhau ar gwrs a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Yn ogystal, bydd amrywiaeth o grantiau a lwfansau eraill hefyd yn cael eu cynyddu ar gyfer 2024/25, fel sy'n digwydd bob blwyddyn. Dylai pawb, beth bynnag eu cefndir, allu fforddio addysg uwch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd ym mhob maes eleni yng nghyd-destun y pwysau sy'n parhau o ran chwyddiant a chyllidebau. Nid yw addysg uwch yn ddim gwahanol. Fy mwriad drwy gydol y cylch cyllidebol drafft diweddaraf yw gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r cymorth cynhaliaeth a ddarparwn i israddedigion. Fodd bynnag, mae penderfyniadau anodd eraill wedi'u gwneud er mwyn cefnogi hyn.
Rydym wedi ymwrthod â galwadau i godi lefel y cap ar ffioedd dysgu yn y gorffennol, ond mae'r pwysau parhaus yn sgil chwyddiant ar ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru yn golygu nad oes modd osgoi cynnydd erbyn hyn. Bydd y cap ar ffioedd dysgu - sef yr uchafswm y gall darparwyr a reoleiddir ei godi ar rai myfyrwyr ar rai cyrsiau israddedig amser llawn - yn codi o £9,000 i £9,250. Bydd y cynnydd yn lefel y cap ddim ond i'r un lefel ag a godir eisoes gan ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban eisoes yn talu'r lefel ffioedd hon, ac felly ni fyddan nhw'n gweld unrhyw newid.
Bydd y newid hwn yn darparu cyllid ychwanegol i brifysgolion a darparwyr eraill yng Nghymru, gan helpu i ddiogelu'r ddarpariaeth a buddsoddiad ym mhrofiad myfyrwyr.
Bydd y cap uwch ar ffioedd dysgu yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr cymwys sy'n astudio yng Nghymru, nid dim ond i fyfyrwyr o Gymru.
Rwy’n cydnabod y bydd myfyrwyr wedi’u siomi efallai gan hyn. Byddaf yn cynyddu'r benthyciad ffioedd dysgu i hyd at £9,250 ar gyfer myfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n astudio yng Nghymru (ac ar gyfer rhai myfyrwyr eraill sy'n astudio yma). Mae hyn yn parhau â'r polisi hirsefydlog o sicrhau nad yw'r un myfyriwr yn gorfod talu ei ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Ni fydd y newidiadau mewn terfynau ffioedd yn golygu cynnydd yn ad-daliad misol myfyrwyr. Nid ydynt chwaith yn effeithio ar ein polisi o ganslo rhan o ddyledion – hyd at £1,500 – pan fydd myfyriwr yn dechrau ad-dalu ei fenthyciadau. Mae hyn yn unigryw i fyfyrwyr o Gymru, ble bynnag y maent yn astudio.
Y cynnydd hwn o 2.8% yn y cap ar ffioedd dysgu yw'r cyntaf ers 2011. Cynyddodd prisiau (fel y'u mesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr sy'n cynnwys costau tai) 29% rhwng 2011 a 2022. Mae'r cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr israddedig Cymru wedi tyfu 39% ers cyflwyno diwygiadau Diamond yn 2018.
Mater i ddarparwyr addysg uwch yw penderfynu ar y ffioedd dysgu i'w codi ar fyfyrwyr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu'r ffioedd, dim ond yr uchafswm y ceir ei godi mewn rhai amgylchiadau. Dylai myfyrwyr siarad â'u prifysgol neu eu darparwr am eu ffioedd.
Nid yw ffioedd dysgu ar gyfer astudiaethau israddedig rhan-amser ac ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn cael eu rheoleiddio. Ni wneir newidiadau mewn perthynas â'r rheini felly.
Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd y bydd grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr meistr ôl-raddedig nawr yn cael eu disodli'n llawn gan fenthyciadau myfyrwyr ad-daladwy. Bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr newydd yn 2024/25. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cynyddu uchafswm gwerth y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr meistr newydd ym mlwyddyn academaidd 2024/25 yn unol â mesur o chwyddiant. Bydd cyfanswm y cymorth yn cynyddu 0.9%. Mae'r benthyciad sydd ar gael yn llawer mwy hael na'r hyn a ddarperir yn Lloegr. Bydd y benthyciad sydd ar gael i gefnogi astudiaethau doethurol hefyd yn cynyddu cymaint â hyn.
Yn ogystal, gwnaed y penderfyniad i ailflaenoriaethu ein cyllid ar gyfer bwrsariaethau cymhelliant ôl-raddedig i ddiogelu cyllid addysg craidd. Caiff hyn ei gadarnhau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddiweddarach eleni. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth grant cynhaliaeth a benthyciadau ffioedd dysgu i'r rhai dros 60 oed sy'n dymuno dilyn astudiaethau israddedig am y tro cyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid i'r rhai sy'n dilyn cwrs addysg uwch am y tro cyntaf. Bydd cymorth cynhaliaeth ar gyfer astudiaethau israddedig yn cynyddu unwaith eto. Rydym yn parhau i gynnig lefel uwch o gymorth i fyfyrwyr meistr ôl-raddedig na'r hyn sydd ar gael yn Lloegr i gydnabod y costau byw y mae myfyrwyr yn eu hwynebu. Bydd y cynnydd yn y ffioedd dysgu yn helpu prifysgolion a darparwyr addysg uwch eraill yng Nghymru i barhau i ddarparu addysg ragorol i'w myfyrwyr. Mae'r newidiadau hyn yn cydbwyso anghenion dyddiol myfyrwyr o Gymru â'n nod o sicrhau bod pawb a allai elwa o addysg uwch yn gallu gwneud hynny, a byddant yn sicrhau bod cymorth yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y sefyllfa ariannol anodd iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu.