Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein neges yn parhau i fod yn glir – dyma’r flwyddyn i fwynhau gwyliau gartref.
Rydym yn dal i ofyn i bobl deithio dramor ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig. Mae pob un ohonom wedi aberthu cymaint i reoli’r achosion o coronafeirws yng Nghymru dros fisoedd y gaeaf. Nid ydym am weld achosion newydd o’r feirws – gan gynnwys amrywiolynnau newydd – yn dychwelyd i Gymru o ganlyniad i deithio tramor.
Caniatawyd i deithio rhyngwladol ailddechrau ar 17 Mai ond mae rheolau caeth yn parhau mewn ymateb i bryderon am ymddangosiad a lledaeniad amrywiolynnau o’r coronafeirws ar draws y byd. Mae’r rheolau hyn yn golygu bod teithio rhyngwladol yn wahanol iawn i fel yr oedd cyn y pandemig.
Rydym wedi mabwysiadu’r un dull goleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol â gweddill y DU. Bydd gwledydd yn cael eu rhoi ar restr werdd, oren neu goch – yn seiliedig ar eu sefyllfa iechyd y cyhoedd a chyfraddau brechu’r wlad - a bydd y rhestrau’n cael eu hadolygu bob tair wythnos. Bydd gwledydd yn cael eu categoreiddio yn seiliedig ar gyngor arbenigwyr o’r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ar gyfer y DU.
Efallai y bydd rhaid i deithwyr dalu am brofion PCR cyn teithio ac mae rhai llywodraethau’n gofyn am dystiolaeth bod teithwyr wedi cael dos llawn o’r brechlyn cyn caniatáu iddynt ddod i mewn i’r wlad.
Yn dibynnu ar ba restr y mae’r wlad y mae pobl wedi teithio ohoni, efallai y bydd rhaid i bobl ynysu yn y DU - naill ai gartref neu drwy dalu am gyfnod mewn gwesty cwarantin dynodedig. Bydd angen i deithwyr hefyd archebu profion PCR gorfodol a thalu amdanynt cyn teithio adref.
Mae’r camau hyn wedi’u cynllunio i atal coronafeirws ac amrywiolynnau newydd rhag dod yn ôl i’r wlad ond nid ydynt yn gwbl berffaith chwaith – gellir lleihau’r risgiau o ganlyniad i deithio rhyngwladol ond nid yw’n bosibl eu dileu’n llwyr.
Mae angen i deithwyr sy’n cyrraedd y DU o wledydd ar y rhestr goch gwblhau cyfnod cwarantin o 10 diwrnod llawn ar ôl dychwelyd drwy borth ddynodedig yn y DU, a hynny mewn cyfleuster a reolir gan y llywodraeth (gelwir y rhain weithiau yn ‘gwesty COVID’). Bydd rhaid i deithwyr dalu am y cyfnod cwarantin, sy’n costio isafswm o £1,750 y pen. Mae hyn yn cynnwys cymryd prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth. Mae’r holl fannau mynediad i’r DU ar gyfer teithwyr o wledydd ar y rhestr goch wedi’u lleoli yn Lloegr ac yn yr Alban, sy’n golygu y bydd rhaid i bobl sy’n byw yng Nghymru ynysu yn y tu allan i Gymru. Bydd unrhyw un sydd ddim yn cadw at y rheolau ar gyfer gwledydd rhestr goch yn wynebu hysbysiad cosb benodedig o £10,000.
Bydd teithwyr sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr oren yn gorfod ynysu gartref am o leiaf 10 diwrnod. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol. Mae’n rhaid i deithwyr hefyd archebu profion PCR i’w cymryd ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, a thalu £170 am y rhain. Nid oes cynllun profi i ryddhau ar waith yng Nghymru.
Nid yw’n ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd o wledydd ar y rhestr werdd ynysu ar ôl dychwelyd i Gymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid i deithwyr archebu prawf PCR i’w gymryd ar ddiwrnod dau, neu cyn hynny, a thalu £88 amdano. Ychydig iawn o wledydd sydd ar y rhestr werdd – mae wedi’i gyfyngu i leoliadau fel Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Faroe a St Helena. Dyma un o’r rhesymau pam rydym yn argymell y dylai pobl dreulio eu gwyliau yng Nghymru eleni, a chefnogi ein diwydiant twristiaeth yma.
I ddiogelu’r cyhoedd, cedwir mewn cysylltiad rheolaidd â theithwyr sy’n dychwelyd o wledydd ar y rhestrau oren a gwyrdd, gan gynnig cymorth iddynt gydymffurfio â’r gofynion profi ac ynysu, gan gynnwys cynnal ymweliadau ar garreg y drws.
Ers mis Chwefror, mae’r Tîm Teithwyr sy’n Cyrraedd – rhan o’r Tîm Olrhain Cysylltiadau Cenedlaethol (dan arweiniad Cyngor Caerdydd) – wedi ymdrin â mwy na 24,000 o deithwyr a’u cefnogi. Mae hyn wedi cynnwys gwneud galwadau i sicrhau llesiant pobl, ac i gadarnhau bod teithwyr wedi cwblhau’r profion gorfodol.
Ar ôl dileu’r cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio, rydym yn rhagweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n teithio dramor. Ond nid yw teithio rhyngwladol heb ei risgiau ac mae’n llawer mwy cymhleth nag yr oedd cyn y pandemig.
Eleni yw’r flwyddyn i fwynhau gwyliau gartref; i fwynhau harddwch Cymru a diogelu’r cynnydd rydym wedi’i wneud.