Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae'r cyhoeddiad heddiw gan Tata Steel UK (TSUK) yn gadael miloedd o weithwyr a'u teuluoedd, yn Tata Steel ac ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach, i wynebu dyfodol ansicr.
Ar hyn o bryd mae TSUK yn cyflogi mwy na 6,500 o weithwyr yng Nghymru a 1,500 arall yng ngweddill y DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda TSUK a'r undebau llafur dur cydnabyddedig ers blynyddoedd lawer i ddiogelu'r swyddi hanfodol hyn a dyfodol hirdymor cynhyrchu dur yng Nghymru.
Dur yw un o'r deunyddiau pwysicaf mewn unrhyw economi fodern ac mae Cymru a gweddill y DU yn well eu byd ac yn fwy diogel o gadw'r gallu i gynhyrchu dur ar lefel arwyddocaol yn y wlad.
Mae cyfraniad Cymru i'r sector dur yn y DU yn bwysig ac mae'r diwydiant yn rhan o stori ein cenedl. Mae'n cynrychioli cryfder economaidd sy'n cael dylanwad byd-eang ac mae'n fesur o ragoriaeth Cymru.
Mae maint y gwaith ym Mhort Talbot yn dod â chymysgedd byrlymus o sgiliau ac arbenigeddau blaengar ynghyd. Mae'n bwysig bod pob lefel o lywodraeth yn deall, yn hyrwyddo ac yn parchu hynny. Mae'r gweithlu'n ymfalchïo yn y sgiliau, y profiad a'r grefft sydd ganddo i wireddu'r trawsnewid gwyrdd fydd yn defnyddio technolegau newydd ac yn manteisio ar y galw enfawr y bydd economi carbon isel yn esgor arno. Wrth i'n heconomi newid, bydd yr angen am ddur yn cynyddu, ac os na all Gweinidogion y DU a TSUK weithio gyda'i gilydd ar fyrder, bydd llai o'r dur hwnnw'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a down yn fwyfwy dibynnol ar fewnforion.
Wrth ddewis peidio â dilyn strategaeth ddiwydiannol fodern gyda dur yn greiddiol iddi, mae Llywodraeth y DU wedi niweidio ein gallu i greu'r twf hirdymor a dibynadwy a fyddai'n troi mesurau sero net yn swyddi gwyrdd, mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Rydym wedi annog Llywodraeth y DU dro ar ôl tro i weithredu ar y raddfa sydd ei hangen a buddsoddi i gefnogi'r symudiad at gynhyrchu dur gwyrddach ac ar i'r Cwmni arwain at bontio teg a chyfiawn i'w weithwyr a'r cwmnïau hynny yn y DU sy'n rhan o'i gadwyn gyflenwi eang.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ergyd gymdeithasol ac economaidd gas fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol a difrifol i Gymru. Ein barn bendant ni yw bod gan Brif Weinidog y DU a'i gabinet y galluoedd a allai osgoi'r senario gwaethaf hwn a maint y golled economaidd sy'n ein hwynebu nawr. Rhaid i Weinidogion y DU weithio'n gyflym yn yr oriau a'r dyddiau nesaf i gynnal trafodaethau i ystyried pob posibiliad i greu trawsnewidiad hirach a thecach fyddai'n cefnogi diwydiant dur ehangach a mwy sicr.
Rwyf wedi mynegi fy mhryderon ynghylch yr angen i weithredu ar y lefel hon gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, Kemi Badenoch AS a'r Gweinidog Gwladol, Nusrat Ghani AS.
Mae'n destun gofid mawr nad yw Llywodraeth y DU - ac yn enwedig yr Adran Busnes a Masnach - wedi dangos unrhyw gydnabyddiaeth o bwysigrwydd strategol y sector hyd yma. Yn wahanol i Ysgrifenyddion Busnes blaenorol, mae Ysgrifennydd Gwladol presennol y DU dros Fusnes a Masnach wedi gwrthod cwrdd â Gweinidogion Cymru ar adeg o ansicrwydd a pherygl enfawr i'r sector. Rydym o'r herwydd wedi colli cyfleoedd i gydweithredu yn gynharach a allai o bosib fod wedi golygu na fyddai cyhoeddiad heddiw wedi'i wneud.
Ym mis Medi 2023, gwnaeth TSUK a Llywodraeth y DU gyhoeddi cytundeb ar y cyd o'r diwedd i fuddsoddi mewn ffwrnais bwa trydan fodern ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25bn gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU o hyd at £500m. Roedd y cynigion yn cynnwys ailstrwythuro busnes TSUK ac yna buddsoddi mewn technoleg bwa trydan. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau arweiniodd ar y cytundeb hwn.
Er bod y cyhoeddiad yn cynnwys buddsoddiad sylweddol yn y tymor hwy, roedd yn anochel y byddai gweithwyr TSUK, a'u teuluoedd, yn poeni'n ofnadwy am eu swyddi a'r effeithiau cymdeithasol y byddai'n rhaid iddyn nhw a'u cymunedau eu hysgwyddo pe bai gweithwyr yn colli urddas gwaith. Mewn cyfarfodydd a datganiadau cyhoeddus, rwyf wedi rhybuddio Gweinidogion Llywodraeth y DU rhag seilio'u rhagdybiaethau ar y senario gwaethaf gan y byddai hynny'n tanseilio trafodaethau sy'n gofyn am le, amser ac arbenigedd. Ni fu clust i wrando arnom, ac rwy'n pryderu'n fawr am y ffordd ddryslyd a difater ambell waith, y mae Llywodraeth y DU wedi delio â'r mater hwn.
Mae'r cyhoeddiad heddiw wedi gwireddu ofnau'r gweithlu gyda'r newyddion y gallai tua 2,500 o swyddi gael eu colli ar draws safleoedd Tata yng Nghymru, a hynny heb sôn am yr effaith ar gadwyn gyflenwi'r Cwmni.
Erbyn hyn mae'n amlwg nad yw'r ddadl o blaid dyfodol heb y crebachu ar y lefel a welir yn y cyhoeddiad heddiw wedi'i harchwilio'n llawn. Roedd argymhelliad allweddol, sef cynnal un ffwrnais chwyth am gyfnod sylweddol hirach, yn un oedd yn argyhoeddi ar sail economaidd ac o ran pontio teg a chyfiawn i TSUK. Dangosodd y cynnig hwn y gallai'r Cwmni fod wedi cadw cyfran sylweddol o'i weithlu a bod yn fasnachol hyfyw yr un pryd. Rhaid i TSUK a Llywodraeth y DU ystyried yr holl opsiynau sy'n bodoli i wneud y gorau o'r swyddi y gall safle Port Talbot eu cynnal drwy gynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Nid ydym eto wedi clywed dadleuon sy'n argyhoeddi gan Weinidogion y DU na'r Cwmni pam nad yw'r opsiynau amgen hyn yn ymarferol.
Mae'n hanfodol bod TSUK yn cynnal trafodaethau ystyrlon â'i weithwyr a'r undebau llafur am y trywydd pontio maen nhw wedi'i ddewis. Fel y dywedodd Tata Steel, mae unrhyw gytundeb yn dibynnu ar gynnal prosesau rheoleiddiol, gwybodaeth ac ymgynghori, ac ar y telerau ac amodau manwl terfynol. Rydym yn pwyso ar y Cwmni i beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau di-droi’n-ôl ar sail y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi’i gynnig hyd yma.
Bydd unrhyw benderfyniad yn cael effaith ddofn ar gadwyn gyflenwi TSUK a'r rhanbarth ehangach, yn enwedig ar draws sector gweithgynhyrchu sydd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sero net y bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn eu cynnig.
Siaradais â chynrychiolwyr undebau llafur ac uwch reolwyr y Cwmni ddoe. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Phrif Weinidog y DU i drafod yr hyn y gellid ei wneud o hyd i sicrhau dyfodol mwy uchelgeisiol i'r ased sofran pwysig hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r undebau llafur a'r Cwmni i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw nifer y swyddi a gollir mor fach â phosib.
Rwy'n bwriadu gwneud Datganiad Llafar ynghylch y mater hwn ddydd Mawrth 23 Ionawr.