Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol y bydd gweithredwr gorsaf bŵer Parc Ynni Baglan, Baglan Operating Limited, yn cael ei roi yn nwylo’r Derbynnydd Swyddogol ddydd Mercher 24 Mawrth.
Bydd hwn yn gyfnod anodd i'r cwmni, y gweithwyr a'u teuluoedd. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r gwasanaeth ansolfedd a phartneriaid dros y cyfnod nesaf i gefnogi'r cwmni a'i weithwyr.
Mae swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar ddull amlasiantaethol o liniaru effaith penderfyniad y cwmni ar y sefydliadau sydd ar y parc.
Mae'r cwmni wedi rhoi gwybod i'r busnesau yr effeithir arnynt am eu penderfyniad ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r Derbynnydd Swyddogol i barhau y cyflenwad ynni i'r parc.