Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf hefyd wedi cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru adroddiad y Tasglu Chwalu Rhwystrau ar gyfer Seilwaith Digidol.

Cafodd sefydlu tasglu ei argymell yn yr adroddiad ar seilwaith digidol gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. 

Mae'r tasglu’n cynnwys amrediad eang o gynrychiolwyr o'r diwydiant telathrebu, cyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Mae'n dod ag arbenigwyr ar amrediad helaeth o faterion ynghyd – o delathrebu i briffyrdd, ac o gynllunio i reoli asedau.

Nod y tasglu yw dileu rhwystrau a chreu'r amgylchedd cywir ar gyfer darparu seilwaith digidol yn gyflym er mwyn gwella cysylltiadau yng Nghymru.

Mae'r adroddiad terfynol wedi cael ei gydgynhyrchu gan y tasglu ac wedi'i hwyluso gan swyddogion. Mae aelodau o'r tasglu wedi cael yr amser i nodi'r rhwystrau i weithredu ac i gytuno ar atebion i broblemau cymhleth. Maen nhw'n tynnu sylw at rwystrau ac atebion ar draws pum maes allweddol: cynllunio, gwaith yn y strydoedd, asedau cyhoeddus, rheoleiddio a chyfathrebu.

Mae'n cynnwys chwe argymhelliad:

  • Cymryd camau i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â phreswylwyr a busnesau ynghylch seilwaith digidol.
  • Hwyluso cyfathrebu gonest a thryloyw rhwng y diwydiant telathrebu a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
  • Gweithio ar draws cyrff cyhoeddus a'r diwydiant telathrebu i estyn cyrhaeddiad band eang yng Nghymru drwy newidiadau i gynlluniau sy’n derbyn arian cyhoeddus.
  • Creu dull safonol ar gyfer rheoli asedau cyhoeddus ar gyfer seilwaith digidol.
  • Diweddaru safonau a chodau ar gyfer yr arferion gorau i ategu'r gwaith o ddarparu seilwaith digidol yng Nghymru.
  • Defnyddio gwybodaeth a'r pwerau rheoleiddiol sydd ar gael yng Nghymru i ysgogi gwelliannau i seilwaith digidol a'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi.

Mae'r argymhellion yn cael eu hategu gan gamau penodol. Bydd gweithgorau a byrddau'r tasglu’n parhau i chwarae rôl hanfodol wrth inni weithio i weithredu'r camau. Byddwn yn sicrhau bod Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i waith i weithredu'r camau fynd rhagddo.