Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dŵr yw un o'n hasedau naturiol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae'n llunio ein hamgylchedd naturiol a'n tirweddau, gan gefnogi bioamrywiaeth a'n hecosystemau. Fel adnodd naturiol hanfodol, mae dŵr yn sail i'n heconomi a gweithrediad effeithiol seilwaith, gan gynnwys y cyflenwad ynni. Mae mynediad at gyflenwadau dŵr glân, diogel a gwydn yn hanfodol hefyd i gefnogi iechyd a lles pawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chymru.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021-2026) yn nodi'r weledigaeth a'r uchelgais i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n ymrwymo i sicrhau bod natur a'r hinsawdd ar agenda pob busnes yn y gwasanaeth cyhoeddus a'r sector preifat. Mae hyn yn gofyn am reoli adnoddau naturiol yn integredig er mwyn sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl mewn ffordd deg tra'n diogelu pob ecosystem a'r amgylchedd. Mae amgylchedd dŵr ffyniannus yn hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau iach, busnesau llewyrchus a bioamrywiaeth. Rhaid inni weithredu'n awr i sicrhau bod rheoli ein hamgylchedd dŵr yn gynaliadwy o fudd i bobl a chymunedau Cymru heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol.

Mae'r seilwaith yng Nghymru i ddelio â'n carthion o dan bwysau oherwydd newid yn yr hinsawdd, newidiadau o ran dwysedd a dosbarthiad y boblogaeth, a datblygiadau newydd. Heb weithredu, bydd y pwysau hyn yn cyfrannu at gynnydd yn y llif mewn gwaith trin, gyda’r risg o’r cynnydd yn nifer y gollyngiadau o orlif stormydd yn cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd dŵr. Mae gweithredu cydgysylltiedig ar draws sefydliadau yn hanfodol os ydym am sicrhau newid a gwelliant i'r ffordd y rheolir a rheoleiddio'r amgylchedd ar orlifo yng Nghymru.

Gyda’i gilydd, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (y sefydliadau partner) yn cydnabod yr angen hwn i weithredu ac wedi sefydlu Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell (y tasglu) i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifo yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Mae Afonydd Cymru a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn rhoi cyngor annibynnol i'r tasglu, gan gynnig mewnwelediad a her o safbwynt rhanddeiliaid a chwsmeriaid.  

Mae nodau'r tasglu yn cynnwys

• Cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau o ran yr amgylchedd a'r newid yn yr hinsawdd

• Lleihau effaith andwyol unrhyw ollyngiadau gorlif ar yr amgylchedd drwy dargedu buddsoddiad a chymryd camau rheoleiddio lle bo angen i sicrhau gwelliannau

• Gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio presennol i sicrhau bod cwmnïau dŵr a gwastraff dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol.  Bydd rheoleiddwyr yn defnyddio eu pwerau presennol i yrru'r canlyniadau cywir a dwyn cwmnïau i gyfrif.

• Casglu mwy o dystiolaeth o'r effaith ar ein hafonydd drwy fonitro'r gollyngiad a'r dŵr derbyn yn well a thrwy'r ymgyrch hon tuag at rwydweithiau gwirioneddol glyfar gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg a rheoli amser real.

• Gweithio gyda'r cyhoedd i fynd i'r afael â chamddefnyddio carthffosydd.

• Gweithio gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth a rôl gorlifo yng Nghymru

Dim ond un o nifer o elfennau y mae angen mynd i'r afael â hwy yw mynd i'r afael â gorlif os ydym am wella ansawdd afonydd yng Nghymru. Yng Nghymru mae'r cwmnïau dŵr wedi bod yn gweithio dros nifer o flynyddoedd i wella asedau sy'n perfformio'n wael, mae hyn yn cynnwys gwella monitro i nodi ble mae angen cymryd camau pellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer rhaglen waith gwerth miliynau o bunnoedd i wella ansawdd dŵr sy'n dod i gyfanswm o dros £40 miliwn dros y 3 blynedd nesaf. Rydym hefyd yn hyrwyddo cydweithio rhwng rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, er enghraifft drwy'r tasglu hwn a'r byrddau rheoli maetholion. 

Nodwyd bod gorlifo wedi'i nodi fel rheswm sy'n cyfrannu at beidio â chael Statws Da mewn 3.9% o'r cyrff dŵr ledled Cymru. Dyna pam mai ffocws uniongyrchol y Tasglu ar orlifo fydd y cam pwysig cyntaf ar y daith i weithredu cydgysylltiedig a phenodol mewn meysydd eraill a fydd yn sicrhau gwelliannau o ran rheoli'r amgylchedd dŵr yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn ar orlifo felly yn rhan o uchelgais ehangach i gyflawni gwelliannau hirdymor a chynaliadwy i ansawdd afonydd.  Ategir yr uchelgais hwn gan gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael ag effeithiau eraill ar y sectorau, megis amaethyddiaeth, camddefnyddio carthffosydd, a llygredd o fwyngloddiau metel segur sy'n effeithio ar ansawdd dŵr yng Nghymru.

Mae'r tasglu wedi nodi 5 maes ar gyfer newid a gwella lle mae angen cymryd camau ychwanegol er mwyn sbarduno newid, gwelliant a buddsoddiad cyflym i gyflawni ein nodau. Mae'r cynlluniau hyn yn nodi amcanion clir a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reoli gorlif o'r cychwyn cyntaf hyd at y tymor hir.

Gorlif stormydd

Mae lleihau effeithiau gorlif stormydd yn bwysig. Mae arnom angen dull traws-sectoraidd a chyfannol o gyflawni hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar atebion cynaliadwy sy'n seiliedig ar natur i ddargyfeirio a chael gwared ar gymaint o ddŵr wyneb â phosibl i ffwrdd o'r systemau carthffosiaeth i gynyddu capasiti'r rhwydwaith.

Mae gorlif stormydd yn darparu pwynt rhyddhad rheoledig ar adegau o law trwm. Gyda thywydd mwy eithafol yn digwydd, maent yn cyflawni rôl hanfodol o ran lleihau'r risg y bydd carthffosydd yn gorlifo mewn cartrefi a mannau cyhoeddus, gan atal carthion rhag gorlifo i gartrefi a busnesau.

Byddai cael gwared ar yr holl orlifiadau stormydd presennol yn brosiect carbon-ddwys hirdymor gwerth biliynau o bunnoedd ac ni fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr na gallu gwrthsefyll y pwysau cynyddol sy'n gysylltiedig â'r newid yn yr hinsawdd.

Rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â gollyngiadau o orlifo. Mae hyn yn cynnwys gwneud systemau draenio cynaliadwy yn orfodol ar bron pob datblygiad adeiladu newydd. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosydd. Bydd yn helpu i sicrhau mai dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir gorlif stormydd.

Cydweithio

Mae mynd i'r afael â gorlif yn un o elfennau allweddol y dull ehangach, cyfannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i wella ansawdd dŵr. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid cyflawni, rheoleiddwyr a'r sectorau perthnasol i nodi a gweithredu atebion cynaliadwy sydd nid yn unig yn cyflawni ansawdd dŵr dymunol ar gyfer canlyniadau gwell ond sydd hefyd yn cefnogi addasu i newid yn yr hinsawdd, gwella bioamrywiaeth a chyflawni yn erbyn ein targed sero net.

Er mwyn datblygu atebion dalgylch sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen gwell gwybodaeth am ansawdd gollyngiadau o orlifo a'r effaith ar ansawdd y dŵr derbyn. Bydd monitro elifiant yn well ar safleoedd wedi'u targedu, ynghyd â monitro hyd digwyddiadau sydd eisoes ar waith, yn gwella'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn galluogi targedu a blaenoriaethu camau gweithredu'n effeithiol. Rhaid i fonitro gorlifo ar hyn o bryd ac yn y dyfodol hefyd weithio ochr yn ochr â rhaglenni monitro ar gyfer ffynonellau llygredd o amaethyddiaeth, sectorau gwasgaredig a sectorau eraill.

Yr wyf wedi bod yn glir bod angen inni fabwysiadu dull dalgylch integredig sy'n canolbwyntio ar gydweithredu aml-sector ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ysgogi gwelliannau i ansawdd dŵr. Drwy fabwysiadu'r dull hwn a gwella ymgysylltu â'r gymuned, byddwn mewn sefyllfa well i ystyried amgylchiadau a blaenoriaethau lleol. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â gollyngiadau o orlif stormydd tra hefyd yn mynd i'r afael ag achosion eraill o ansawdd dŵr gwael.

Gall dinasyddion a grwpiau lleol chwarae rhan allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â llygredd ansawdd dŵr drwy ddarparu gwybodaeth fonitro ac ymwybyddiaeth y cyhoedd. Bydd y tasglu'n gweithio gyda gwyddonwyr dinasyddion i ddeall sut y gall eu gwaith gefnogi a llywio gwell dealltwriaeth o effaith gollyngiadau ar ddyfroedd derbyn.

Bydd yn rhaid i'r cynlluniau hyn addasu i dystiolaeth newydd a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, a disgwyliadau'r cyhoedd Ni ellir tanamcangyfrif yr heriau a wynebwn. Bydd hwn yn brosiect hirdymor, ond mae angen i ni weithredu nawr. Rhaid i bob parti weithio gyda'i gilydd a mabwysiadu dull 'Tîm Cymru' y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau lluosog sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n nentydd a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd ein dyfrffyrdd tra'n cynyddu ein defnydd o ffyrdd naturiol o reoli ein dŵr gwastraff. Y tryloywder, y natur agored a'r hyblygrwydd hwn yw'r union ymateb sydd ei angen arnom i broblemau ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu yng Nghymru

Rwy'n croesawu gwaith y Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell ac yn diolch i'r aelodau am eu cyfraniadau sydd wedi arwain at gyhoeddi cynlluniau gweithredu sy'n nodi amcanion a chanlyniadau mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau i reolaeth a rheoleiddio amgylcheddol gorlif stormydd yng Nghymru.

http://llyw.cymru/tasglu-gwella-ansawdd-afonydd-cymru