Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 2 Ebrill 2025, cyhoeddodd yr Arlywydd Trump gyfres o dariffau 'cilyddol (reciprocal) ar bob gwlad. O ran y DU, mae hyn yn golygu y bydd tariff o 10% bellach yn berthnasol ar fewnforion i'r Unol Daleithiau o 5 Ebrill 2025. Dyma'r tariff sylfaenol isaf sydd wedi'i osod a bydd yn ychwanegol at y tariff o 25% ar ddur ac alwminiwm (a gyhoeddwyd 10 Chwefror 2025) ac ar foduron a rhannau modurol (a gyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2025). Mae nifer cyfyngedig o gynhyrchion a fydd wedi'u heithrio o'r tariffau hyn i ddechrau, fel cynhyrchion fferyllol a lled-ddargludyddion. 

Yr Unol Daleithiau yw ail bartner allforio nwyddau mwyaf Cymru, gan gyfrif am 13.5% o gyfanswm ein hallforion nwyddau.  Mae'r data diweddaraf yn dangos mai gwerth masnach nwyddau Cymru gyda'r Unol Daleithiau yn 2024 oedd £6.4 biliwn - a bod mewnforion ac allforion werth £4.2bn a £2.2bn yn y drefn honno. O blith y 3,188 o fusnesau Cymreig a allforiodd nwyddau ledled y byd yn 2024, allforiodd tua thraean (33.4%) ohonynt i'r Unol Daleithiau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i feithrin cysylltiadau masnach agos a chyfleoedd economaidd gyda'r Unol Daleithiau. Mae gennym swyddfeydd rhyngwladol yn Efrog Newydd, Washington DC, Atlanta, Chicago a Los Angeles ar hyn o bryd. 

Fis diwethaf, arweiniodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ddirprwyaeth o gwmnïau creadigol o Gymru i Gynhadledd Datblygu Gemau 2025 yn San Francisco ac fe wnaethom hefyd gyhoeddi cynlluniau gan arweinydd meddalwedd dylunio lled-ddargludyddion o’r Unol Daleithiau, Cadence Design Systems, Inc., i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghaerdydd, gan greu mwy na 100 o swyddi medrus iawn. Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd y berthynas waith agos hon rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau yn parhau i ffynnu.

Er ei bod yn rhywfaint o ryddhad i weld bod y tariffau a fydd ynghlwm wrth fewnforion o'r DU yn is na’r tariffau ar gyfer rhai gwledydd a blociau masnachu eraill, fel yr UE, rwy'n parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith y byddant yn ei chael ar ein busnesau yng Nghymru. Mae tariff o 10% yn cynrychioli cynnydd sylweddol ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion ac, er y gallai rhai o'n hallforwyr allweddol elwa ar eithriadau, bydd effaith y tariffau hyn yn bellgyrhaeddol ac yn effeithio ar bron pob un o'n busnesau sy'n allforio i'r Unol Daleithiau. 

Er bod llywodraeth y DU wedi lansio cais am fewnbwn ar oblygiadau tariffau posibl i wrthymateb ar gyfer busnesau Prydain, rwy'n deall nad oes bwriad ar hyn o bryd i wrthymateb i'r tariffau newydd hyn ac mai’r nod yw ceisio taro bargen gyda'r Unol Daleithiau a allai arwain at eu lleihau. Rydym yn gobeithio bod modd cyflawni hyn yn fuan iawn, ac rwy'n parhau i gefnogi'r camau sy’n cael eu cymryd gan lywodraeth y DU.

Wrth baratoi ar gyfer y cyhoeddiad hwn, rwyf wedi ymgysylltu â'r undebau llafur, llywodraeth y DU a chynrychiolwyr o fusnesau a diwydiant yng Nghymru. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â llywodraeth y DU wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac wrth i effaith bosibl y tariffau hyn ddod yn gliriach.  Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gefnogi'r allforwyr Cymreig hynny y mae'r sefyllfa hon yn effeithio arnynt drwy ein rhaglenni cymorth busnes. 

Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth i effaith bosibl y tariffau newydd ddod yn gliriach.