Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Ar 17 Rhagfyr 2016, fel rhan o’r Gyllideb Derfynol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £10m yn ychwanegol i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys tafarnau a thai bwyta.
Heddiw rwyf yn nodi manylion pellach ynghylch sut y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr wedi’i dargedu ar gyfer 2017-18 yn gweithredu. Mae’r cynllun £10m hwn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol i fusnesau y mae ailbrisiad 2017 wedi effeithio ar eu cymhwysedd ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y rhyddhad yn cael ei dargedu’n effeithiol at y rhai â’r angen mwyaf am gymorth.
Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi’n darparu cymorth o hyd at £1,500 ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000 yn 2017-18.
Ymhlith y trethdalwyr hynny a fydd yn elwa ar y rhyddhad y mae safleoedd manwerthu wedi’u meddiannu ar y stryd fawr megis siopau, bwytai, caffis, tafarnau a bariau gwin.
Er mwyn manteisio i'r eithaf ar swm y cymorth y gellir ei ddarparu ac i sicrhau y caiff ei dargedu at yr ardaloedd a’r busnesau hynny y mae’r ailbrisiad wedi effeithio arnynt bydd dwy haen o ryddhad.
Bydd yr haen gyntaf o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr y stryd fawr sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 sy'n cael naill ai rhyddhad ardrethi i fusnesau bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol.
Bydd talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad o £500 yn eu bil ardrethi, ac eithrio lle y byddai hyn yn lleihau eu Bil i lai na sero – yn yr achosion hyn bydd trethdalwyr yn cael disgownt sy’n gyfartal â swm y rhwymedigaeth sy'n weddill.
Bydd yr ail haen o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr cymwys y stryd fawr â gwerth ardrethol rhwng £50,000 a £12,001 sy’n cael cynnydd yn eu rhwymedigaeth ardrethi domestig ar 1 Ebrill 2017. Bydd talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o hyd at £1,500.
Mae’r lefel uwch hon o gymorth yn adlewyrchu'r ffaith nad oes gan y busnesau hyn yr hawl i gael ffynonellau eraill o gymorth a ariennir gan y Llywodraeth megis SBRR ac y gallent wynebu cynnydd sylweddol yn eu rhwymedigaeth ardrethi o ganlyniad i ailbrisiad 2017, sydd wedi’i gyflawni gan Asiantaeth annibynnol y Swyddfa Brisio.
Mae targedu cymorth yn y modd hwn yn golygu y bydd cymorth ar gael i fusnesau cymwys sy’n gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd o ganlyniad i’r ailbrisiad, yn ogystal ag i’r busnesau hynny ar y stryd fawr lle mae ardrethi’n gostwng ond y mae busnesau’n cael pethau’n anodd o ganlyniad i amodau economaidd a chystadleuaeth gan ddarparwyr ar-lein ac ar gyrion trefi.
Mae cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn unigryw i Gymru ac fe fydd yn darparu cymorth i bron 15,000 o fusnesau bach a chanolig ledled y wlad yn 2017-18.
Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i gynllunio’r cynllun a sicrhau bod cynghorau’n gallu gweithredu'n gyflym i gefnogi busnesau yn eu hardaloedd. Darperir canllawiau cysylltiedig ar gyfer gweinyddu’r rhyddhad yn effeithiol ac fe gaiff trethdalwyr eu hysbysu am eu hawliad.
Bydd y cynllun newydd wedi'i dargedu, ynghyd â’n penderfyniad i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i mewn i 2017-18 a darparu cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o Ebrill 2017, yn darparu cymorth hanfodol i drethdalwyr ledled Cymru.
Nodyn technegol:
Mae'r meini prawf ar gyfer busnesau cymwys wedi'u rhestru isod:
i. Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy’n ymweld;
ii. Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n rhannol i ddarparu gwasanaethau manwerthu i aelodau o'r cyhoedd sy’n ymweld;
iii. Hereditamentau sy’n cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy’n ymweld:
Bydd y rhyddhad yn eithrio:
i. Hereditamentau â gwerth o fwy na £50,000
ii Hereditamentau nad ydynt yn hygyrch yn rhesymol i aelodau'r cyhoedd sy'n ymweld
iii Hereditamentau sydd mewn parciau manwerthu y tu allan i drefi neu ystadau diwydiannol
iv. Hereditamentau heb eu meddiannu
v. Hereditamentau sy’n cael rhyddhad ardrethi elusennol gorfodol