Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Mercher 15 Ionawr hysbysodd Dŵr Cymru Lywodraeth Cymru fod pibell ddŵr ar gyfer y prif gyflenwad ger Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog, Conwy wedi byrstio.

Gweithredodd Llywodraeth Cymru ei threfniadau ymateb wrth gefn sifil nos Fercher i gefnogi Grŵp Cydlynu Strategol amlasiantaeth Gogledd Cymru sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Roedd y bibell wedi byrstio'n ddifrifol, a oedd yn golygu bod angen gwneud gwaith atgyweirio cymhleth mewn lleoliad heriol iawn o dan Afon Ddu. Gwnaeth hyn effeithio ar gyflenwadau hyd at 40,000 o eiddo ddydd Mercher 15 Ionawr a dydd Iau 16 Ionawr. Cyhoeddwyd bod hwn yn ddigwyddiad mawr ac mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gefnogi'r ymateb cydgysylltiedig rhwng yr asiantaethau perthnasol. 

Mae colli cyflenwad dŵr am unrhyw gyfnod estynedig yn cael effaith sylweddol iawn.  Mae'n amlwg, wrth i'r digwyddiad hwn barhau, ei fod wedi achosi pryder mawr i drigolion Conwy ac wedi cael effaith sylweddol ar bobl, ysgolion a busnesau. Roedd 23 o ysgolion ar gau ddydd Iau 16 Ionawr ac roedd 40 o ysgolion ar gau ddydd Gwener 17 Ionawr. 

Cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â Phrif Weithredwr Dŵr Cymru i'w hysbysu am hynt y gwaith atgyweirio a darparu dŵr i bobl sydd wedi colli'r cyflenwad. Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog bwysigrwydd negeseuon clir i'r cyhoedd a sicrhau bod cyflenwadau brys yn cael eu darparu a'u bod ar gael i bawb, a hefyd bwysigrwydd sicrhau bod cwsmeriaid agored i niwed yn benodol yn cael eu cefnogi.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cyfarfod ag Arweinydd Cyngor Conwy i drafod effaith y digwyddiad. Buont yn trafod y trefniadau sy'n cael eu gwneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu cyflenwadau dŵr a'r effeithiau ar fusnesau. 

Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos â Defra a hyb ymateb brys Llywodraeth y DU, COBR, drwy gydol y digwyddiad. Mae'r Grŵp Cyflenwi Dŵr Amgen a chymorth ar y cyd o bob rhan o'r diwydiant dŵr wedi sicrhau cyflenwadau ychwanegol sylweddol o ddŵr potel, gan gynnwys cyflenwadau o Loegr a'r Alban. 

Mae Dŵr Cymru bellach wedi cadarnhau bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol wedi'i gwblhau ac mae'r rhwydwaith dŵr ehangach yn cael ei adfer. Mae'r broses yn cael ei chynnal yn ofalus, o ystyried maint y rhwydwaith y mae'r sefyllfa wedi effeithio arno a'r ffaith bod cymaint o ddefnydd o'r system yn y rhan hon o Gymru. 

Mae Dŵr Cymru yn gweithio mor gyflym â phosibl i adfer cyflenwadau i gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ac ar y cyd a gwasanaethau cyhoeddus lleol maent yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu cyhyd ag y bydd y digwyddiad yn parhau. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ar gadw'n ddiogel a sicrhau eu bod yn yfed digon tra bo tarfu ar gyflenwadau dŵr ac mae cyflenwadau dŵr potel ychwanegol yn cael eu dosbarthu yn yr ardaloedd y mae’r sefyllfa wedi effeithio arnynt. Gallwch weld yr wybodaeth hon: y tywydd ac iechyd ar Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Dŵr Cymru wedi agor gorsafoedd dŵr potel yn Nolgarrog, Bae Colwyn, Conwy a Llandudno. Bydd y trefniadau yma'n cael eu hadolygu i sicrhau bod dŵr ar gael lle bod ei angen wrth i'r cyflenwadau gael eu hadfer. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddosbarthu cyflenwadau i gymunedau mwy ynysig. 

Mae Dŵr Cymru hefyd yn darparu cyflenwadau ar gyfer ffermwyr lleol at ddefnydd amaethyddol. Mae dau safle casglu wedi'u sefydlu i alluogi ffermwyr i lenwi bowseri a thanciau, ac mae Dŵr Cymru yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r FUW i dynnu sylw ffermwyr at hyn. 

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi trefniadau ar gyfer iawndal sydd ar gael i gwsmeriaid preswyl ac i fusnesau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dŵr Cymru.

Hoffai Gweinidogion ddiolch i'r holl ymatebwyr cyntaf a'r llu o asiantaethau sydd wedi rhoi cymorth i'r cymunedau y mae’r sefyllfa hon wedi effeithio arnynt, ac yn enwedig i'r rhai sy’n agored i niwed. Rydym hefyd yn dymuno diolch yn arbennig i'r timau gweithgar o beirianwyr sydd wedi bod yn gweithio'n ddi-flino i atgyweirio'r bibell. Mae hwn yn waith atgyweirio arbennig o heriol sydd wedi'i wneud cyn gynted â phosibl o dan amodau anodd a pheryglus. 

Bydd trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i’r digwyddiad yn parhau a byddwn  hefyd yn parhau i gefnogi Dŵr Cymru a Grŵp Cydlynu Strategol amlasiantaethol Gogledd Cymru yn ôl yr angen nes bydd y cyflenwad dŵr yn dychwelyd i'r arfer.