Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae unrhyw darfu ar gyflenwad meddyginiaeth yn achos pryder i'r bobl sydd angen ei chymryd, ynghyd â'u gofalwyr, a'r clinigwyr sy'n goruchwylio eu gofal.
Yn ffodus, dim ond effeithio ar gyfran fechan iawn o'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn y GIG a wna unrhyw darfu ar gyflenwadau ac, yn y mwyafrif o achosion, pan fo prinder, gellir ei reoli heb i bobl brofi unrhyw ymyriad â'r cyflenwad.
Am amrywiaeth o resymau, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi profi achosion mwy rheolaidd o darfu ar gyflenwad meddyginiaethau ac, mewn rhai achosion, mae'r rhain wedi dod yn fwy sylweddol, gan olygu bod mwy o bobl wedi ei chael hi'n anodd cael gafael ar y meddyginiaethau y cânt bresgripsiwn ar eu cyfer. Dros y ddwy flynedd diwethaf, bu tarfu sylweddol ar gyflenwadau yn effeithio ar therapi adfer hormonau (HRT), rhai meddyginiaethau a ddefnyddir i drin diabetes, meddyginiaethau i drin anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a therapi adfer ensymau pancreatig (PERT).
Mae sawl rheswm dros darfu o'r fath, gan gynnwys mwy o alw am feddyginiaeth benodol pan na all y gwneuthurwyr gynhyrchu digon ohoni, tarfu ar gyflenwad deunyddiau crai a phroblemau sy'n codi yn ystod y broses weithgynhyrchu.
Mae llawer o'r rhesymau hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol naill ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am sicrhau parhad cyflenwad meddyginiaethau i'r DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, byrddau iechyd, ymarferwyr cyffredinol a fferyllfeydd i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl pan fydd yn digwydd ac i reoli goblygiadau hyn i bobl yng Nghymru.
Drwy ein gweithredoedd, mae'r sefyllfa gyflenwi gyffredinol mewn perthynas â meddyginiaethau HRT ac ADHD wedi gwella. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd tarfu o hyd ar gyflenwad rhai mathau penodol o feddyginiaethau HRT ac ADHD ac mae argaeledd y rhain yn dal i fod yn ysbeidiol.
Rwy'n cydnabod y gall yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag achosion o darfu ar gyflenwadau beri rhwystredigaeth a gorbryder i'r rhai yr effeithir arnynt. Er mwyn helpu i wella'r wybodaeth sydd ar gael, rydym wedi cyhoeddi tudalen we yn esbonio'r rhesymau dros brinder meddyginiaethau a'r mathau o gamau rydym yn eu cymryd gyda'r GIG, presgripsiynwyr a fferyllwyr i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl.
Heddiw, rwy'n lansio tudalen we fanylach, sydd â gwybodaeth am feddyginiaethau penodol sy'n profi prinder a lle mae achosion o darfu ar gyflenwadau yn debygol o effeithio ar nifer sylweddol o bobl neu barhau am gyfnod estynedig o amser. Bydd yr wybodaeth yn egluro pam y cafwyd y tarfu, yr hyn rydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i ddatrys y sefyllfa, a'r camau y gall pobl eu cymryd os ydynt yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar eu presgripsiwn. Mae ar gael ar: Prinder meddyginiaethau | LLYW. CYMRU.
Mae gwybodaeth ar gael yma am feddyginiaethau HRT, PERT ac ADHD. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n rheolaidd wrth i wybodaeth ddod i law.