Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae unrhyw darfu ar gyflenwad meddyginiaeth yn peri pryder i'r bobl hynny sydd angen ei gymryd a'r clinigwyr sy'n goruchwylio eu gofal.
Yn gyffredinol, mae'r tarfu'n effeithio ar gyfran fach iawn o'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn y GIG, a gellir rheoli'r rhan fwyaf o brinder heb ymyrryd ar y cyflenwad i bobl.
Yn anffodus, dros y 12 mis diwethaf, bu tarfu sylweddol ar gyflenwadau sy'n effeithio ar therapi adfer hormonau (HRT), rhai meddyginiaethau a ddefnyddir i drin diabetes, a meddyginiaethau a ddefnyddir i drin Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Rydym yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i'w cynorthwyo i gynhyrchu rhagor o'r meddyginiaethau hyn i ateb y galw cynyddol.
Mae ystod o gamau yn cael eu cymryd i liniaru effaith y tarfu ar gyflenwadau penodol gan gynnwys rhoi cyngor clinigol i bresgripsiynwyr ar driniaethau amgen; cyhoeddi Protocolau Prinder Difrifol i alluogi i fferyllfeydd roi dewisiadau amgen sy'n briodol yn glinigol pan na allant gael meddyginiaeth sydd wedi'i ragnodi, a chyfyngu ar allforio meddyginiaethau sy'n brin.
Ond mae’n debygol y gall y tarfu ar gyflenwadau o’r meddyginiaethau hyn barhau am sawl mis. Mae cyflenwadau o gapsiwlau lisdexamfetamine 50mg, 60mg a 70mg a chapsiwlau 10mg a 20mg o methylphenidate Equasym XL ar gael yn awr. Bydd y tarfu ar bob meddyginiaeth ADHD ac eithrio capsiwlau cryfder 18mg a 36mg o methylphenidate wedi’i ddatrys erbyn 22 Rhagfyr.
Mae prinder meddyginiaethau yn digwydd am nifer o resymau, gan gynnwys galw cynyddol sy'n fwy na gallu'r gwneuthurwr i gynhyrchu meddyginiaeth benodol; amhariad ar y cyflenwad o ddeunyddiau crai, a phroblemau a wynebir yn ystod y broses weithgynhyrchu.
Mae sicrhau parhad cyflenwad o feddyginiaethau i'r DU yn fater a gedwir yn ôl ac mae'n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rheoli goblygiadau unrhyw amhariad ar gyflenwadau ar gleifion a'r GIG yn gofyn am gamau gweithredu cydgysylltiedig rhwng y DU a'r llywodraethau datganoledig, a'r GIG.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, presgripsiynwyr a fferyllfeydd i liniaru effaith unrhyw amhariad.
Mae fferyllfeydd cymunedol yn prynu meddyginiaethau gan nifer o wahanol gyfanwerthwyr i'w cyflenwi. Mae pob cyfanwerthwr yn caffael cynnyrch gan weithgynhyrchwyr yn uniongyrchol, ond ar adegau pan fydd y cyflenwad yn ysbeidiol efallai na fyddant bob amser yn llwyddiannus. Bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol ar y fferyllfeydd sy'n cael cyflenwad ganddynt a gall olygu ar lefel leol y bydd rhai fferyllfeydd a meddygon sy'n cyflenwi yn gallu cael meddyginiaeth hyd yn oed pan na fydd eraill yn llwyddo.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), GIG Cymru, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i gefnogi pobl i barhau i dderbyn y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt.
Dylai unrhyw un sy'n cael anhawster cael triniaeth gysylltu â'u meddyg neu fferyllydd i drafod pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael.