Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr aelodau’n ymwybodol ein bod yn gyson wedi wynebu problemau mewn rhai rhannau o Gymru oherwydd tanau glaswellt a gyneuwyd yn fwriadol: fe gofir y problemau difrifol a gawsom flwyddyn yn ôl. Ym mis Ebrill y llynedd cynhaliodd y Prif Weinidog uwchgynhadledd i drafod y materion hyn. Roeddwn i’n bresennol ac felly hefyd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Yn yr uwchgynhadledd hon daeth y sefydliadau allweddol at ei gilydd er mwyn cyd-drefnu rhaglen i fynd i’r afael â phroblem tanau glaswellt yn y tymor byr, canolig a hir, yn seiliedig ar addysg, rheoli tir a chanfod ffyrdd o atal hyn rhag digwydd. Ymrwymodd yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru i fod yn rhan o’r rhaglen. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf buom ni a’n partneriaid wrthi’n datblygu ffyrdd o rwystro tanau glaswellt rhag digwydd a sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu ymateb yn gyflymach pan fyddant yn digwydd.  

Mae cynnau tân glaswellt yn fwriadol yn weithred anghyfrifol a pheryglus ac mae’n drosedd. Mae’n dinistrio’r amgylchedd, yn lladd bywyd gwyllt a da byw ac yn achosi perygl difrifol i gymunedau. Mae ymchwil a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dangos bod llawer iawn o bobl yn anadlu mwg gwenwynig yn sgil y tanau hyn, a hynny’n gallu achosi niwed difrifol i’w hiechyd yn yr hirdymor. Mae diffoddwyr tân yn gorfod peryglu eu bywydau er mwyn mynd i’r afael â’r aflwydd hwn, sy’n golygu nad ydynt ar gael i ymateb i argyfyngau eraill. Pan gaiff pobl eu dal yn cynnau tanau glaswellt, defnyddir holl rym y gyfraith i’w cosbi ac mae hynny’n gwbl briodol. Fel rheol byddant yn wynebu cyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol a’r ddedfryd fwyaf am hynny yw carchar am oes. Rwyf yn cymeradwyo gwaith y diffoddwyr tân a hefyd yr heddlu yn hyn o beth.  

Yn dilyn yr achosion a welwyd y llynedd, mae ein hystadegwyr wedi cydweithio â’r Awdurdodau Tân ac Achub er mwyn mapio tanau glaswellt yn fanylach a gweld a oes unrhyw dueddiadau o ran lleoliad y tanau a’r adeg o’r flwyddyn pan fyddant yn digwydd. Gall yr Awdurdodau Tân ac Achub a’u partneriaid ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’u hadnoddau.

Trosedd anodd ei chanfod yw hon. Mewn llawer man yng Nghymru, mae glaswelltir neu goedwig yn agos at drefi ac mae digon o gyfle i roi glaswellt ar dân. Yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer o’r tyfiant wedi marw i lawr ac mae’n llosgi’n rhwydd iawn os bydd hi’n dywydd sych. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddelio â thanau glaswellt yw trwy sicrhau nad ydynt yn digwydd yn y lle cyntaf a dyna beth y buom ni a’n partneriaid yn ei wneud. Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn cyflwyno sawl rhaglen gyda’r nod o sicrhau na fydd plant a phobl ifanc yn awyddus i gynnau tân yn fwriadol. Mae’r gwaith yn mynd ymlaen drwy’r flwyddyn ac mae wedi ei anelu at bob oedran gan fod yr wybodaeth am y rhai a arestiwyd yn dangos nad pobl ifanc sydd bob amser yn gyfrifol. Trefnir ymgyrchoedd addysgol sy’n dweud y gwir yn blaen a digyfaddawd yn ogystal â gwaith dwys i ddelio â’r rhai sydd wedi troseddu neu sy’n debygol o wneud. Gwneir hyn mewn cydweithrediad llawn ag ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau eraill, dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Er enghraifft, lansiwyd ymgyrch ‘Bernie’ eleni gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar 2 Chwefror, yn Ysgol Parc y Darren, Glynrhedynog. Ymgyrch gyhoeddusrwydd yw Bernie lle targedir plant cynradd gan ennyn eu sylw a’u dysgu am yr hyn all ddigwydd os bydd rhywun yn cynnau tân yn fwriadol ar laswellt neu fynydd - yn enwedig beth all ddigwydd i’w cartrefi, y dirwedd a bywyd gwyllt yn y cyffiniau.  

Cynhelir rhaglenni mwy dwys fel ‘Troseddau a Chanlyniadau’ a ‘Ffenics’ drwy gydol y flwyddyn a thrwy Gymru benbaladr. Mae’r rhaglenni hynny’n gweithio gyda grwpiau bach y mae perygl y byddant yn troseddu, gyda’r nod o’u cael i ymddwyn yn fwy cadarnhaol a bod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas. Er enghraifft, mae’r tîm Troseddau a Chanlyniadau wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â GemauStryd Cymru ym Mlaenau Gwent er mwyn darparu llefydd i blant gymryd rhan mewn chwaraeon, gan gyflwyno negeseuon ar yr un pryd ynghylch troseddu a chynnau tân yn fwriadol.

Bu’r Awdurdodau Tân ac Achub hefyd yn cydweithio â grwpiau cymunedol a’r rhai sy’n gofalu am yr amgylchedd a bywyd gwyllt, er mwyn manteisio ar yr ewyllys da sy’n bodoli yn y gymuned ehangach fel y gallwn amddiffyn ein hamgylchedd naturiol rhag y tanau hyn.

Yn ychwanegol at y mentrau ataliol sy’n gweithio gyda’r rhai y mae posibilrwydd y buasent yn cynnau tanau, rydym hefyd wedi cymryd camau i sicrhau na fydd tanau’n ymledu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi edrych i mewn i’r modd y gellir newid dulliau o reoli tir a choedwigoedd fel na fydd glaswelltiroedd mor debygol o fynd ar dân neu i’w gwneud yn haws cadw tân rhag ymledu. Maent hefyd wedi cydweithio â’r Gwasanaeth Tân a thirfeddianwyr er mwyn datblygu dulliau o’r fath. At hynny, mae diffoddwyr tân wedi bod wrthi’n datblygu strimynnau atal tân ar rai o’r bryniau yn y Cymoedd, gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf y maent wedi eu dysgu gan wasanaethau tân mewn gwledydd eraill.

Er hynny, ni all unrhyw raglen ataliol fyth rwystro pob tân glaswellt ac felly mae’n hollbwysig bod ein diffoddwyr tân yn gallu ymateb yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol pryd bynnag y bydd tân.    

Heddiw’r bore bûm yn ymweld â Gorsaf Dân Hirwaun. Mae criw yr orsaf hon, fel llawer o orsafoedd eraill, yn debygol o fod yn y llinell flaen os ceir tanau eto eleni fel y llynedd. Mae eu gwaith proffesiynol a’u hymroddiad i gadw ein cymunedau yn ddiogel yn haeddu parch arbennig. Felly roeddwn yn hynod falch o gael gweld dau fath o offer y mae Llywodraeth Cymru wedi talu amdanynt er mwyn helpu’r diffoddwyr tân hyn a’u cydweithwyr i ddelio â thanau glaswellt.

Yr un cyntaf yw cerbydau tân sy’n addas ar gyfer pob math o dir. Bydd y rhain yn helpu i geisio diffodd tanau mawr ar laswelltir lle mae’r tir yn rhy arw ar gyfer cerbydau mwy. Mae’r cerbydau’n amhrisiadwy oherwydd maent yn sicrhau y gall diffoddwyr tân gyrraedd tân lle bynnag y bo, mor gyflym a diogel ag sy’n bosibl gan atal unrhyw ddifrod pellach.

Yr ail beth yw setiau o Gyfarpar Diogelu Personol arbennig er mwyn cadw diffoddwyr tân yn ddiogel mewn sefyllfaoedd o’r fath. Mae’r Cyfarpar Diogelu Personol arferol wedi’i gynllunio ar gyfer diffodd tân mewn adeilad. Mae’n rhy drwm ac anhyblyg pan fydd angen cerdded yn bell i gyrraedd tân glaswellt a’i ddiffodd. Rydym yn awr wedi darparu cyfarpar llawer ysgafnach a haws ei wisgo, ond mae’n diogelu’r diffoddwyr tân lawn cystal.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu arian hefyd er mwyn i Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru brynu Cerbyd Awyr Di-griw, neu ddrôn, i’w helpu gyda sawl math o waith tân ac achub. Gall y cerbyd hwn ddarparu gwybodaeth hanfodol ynglŷn â lledaeniad tân glaswellt, yn fwy cywir a diogel na’r hyn a geid ar lefel y ddaear, fel y gellir anfon criwiau ac offer yn fwy cyflym ac effeithiol. Mae’r offer hwn wedi profi’n amhrisiadwy eisoes. Er bod llawer o wasanaethau brys yn edrych ar bosibiliadau’r dechnoleg hon yn awr, mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn un o bedwar yn unig o Awdurdodau Tân ac Achub yn y DU sydd wedi cael trwydded gan yr Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn hedfan dronau yn broffesiynol. Gan hynny, rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn darparu arian ar gyfer ail ddrôn a hwnnw’n un mwy sy’n gallu gwneud mwy o bethau gan gynnwys hedfan yn y nos ac ar dywydd garw.

Mae tanau glaswellt yn difetha’r amgylchedd ac yn berygl enbyd i ddiogelwch y cyhoedd. Ond fe welsom ymateb hynod gadarnhaol gan y cyhoedd y llynedd; fe wnaeth pobl gynnig gwybodaeth a buont hefyd yn gefn i’n diffoddwyr tân a’r heddlu. Roedd hynny’n dangos yn glir fod diogelwch yn bwysig yng ngolwg pobl a’u bod yn condemnio’r rhai oedd yn gyfrifol am y tanau.

Ar lefel genedlaethol, rydym wedi adolygu’r cynlluniau ar gyfer delio â thanau eleni yn y Fforwm Cymru Gydnerth; mae’r Awdurdodau Tân ac Achub, yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill yn rhan o’r fforwm hwn. Trwy’r Cyd-grŵp Tanau Bwriadol, bydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yn parhau â’r gwaith o gyd-drefnu gwaith a mentrau amlasiantaeth ledled Cymru er mwyn sicrhau y gwelwn lai o danau glaswellt. Yn bendant fe wyddom fod ein gwasanaethau brys yn gwbl barod i wynebu pob her y gallant ei hwynebu eleni.