Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer sylweddol o danau glaswellt wedi cychwyn yng Nghymru, yn enwedig yn y De. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cadarnhau y cafodd 93% o’r tanau hyn yn ei ardal eu cychwyn yn fwriadol. Rwy’n ymuno â’r Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu ac eraill yn condemnio’r rheini sy’n ymddwyn yn fath ffordd beryglus, dinistriol a throseddol.
Rwy’n canmol y Gwasanaethau Tân ac Achub, a diffoddwyr tân unigol, am eu hymateb i’r achosion hyn. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ysgwyddo baich y tanau hyn, ac wedi cyflwyno trefniadau penodol i sicrhau bod darpariaeth ar gael os bydd tân mewn cartref wrth i’r diffoddwyr tân fynd i’r afael â thanau glaswelltir difrifol.
Rwy’n croesawu safbwynt llym Heddlu De Cymru. Ni ddylem fod mewn sefyllfa o’r fath. Mae cychwyn tân glaswellt yn drosedd. Mae’n rhoi pobl mewn perygl – diffoddwyr tân ac aelodau o’r cyhoedd fel ei gilydd. Mae hynny heb sôn am y niwed i fywyd gwyllt, da byw a’r amgylchedd, a’r gost sylweddol i bwrs y wlad yn sgil ymdrin â’r tanau hyn. Bob blwyddyn, rydym yn gweld nifer o achosion o amgylch gwyliau ysgol y Pasg ac wrth i’r tywydd wella.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ynghyd â’r ddau Wasanaeth Tân ac Achub arall yng Nghymru, raglen lawn o weithgareddau â’r nod o leihau achosion o danau bwriadol. Y gred yw mai plant a phobl ifanc sy’n gyfrifol yn aml, felly mae’r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar newid ymddygiad plant a phobl ifanc yn gyffredinol, gan ymyrryd yn fwy penodol gyda’r rheini sydd wedi troseddu neu mewn perygl o wneud hynny.
Rydym yn gwybod y gall y rhaglenni hyn fod yn effeithiol. Er enghraifft, mae un ymgyrch gyhoeddusrwydd [BERNIE] wedi arwain at gwymp o bron 80% mewn achosion o danau yn y bum ardal darged rhwng 2010 a 2014. Mae’r cyfraddau aildroseddu ymysg y rheini sy’n cymryd rhan yn rhaglen Ffenics y Gwasanaeth Tân – sy’n ceisio annog pobl ifanc i beidio â throseddu – fel arfer yn llai na 5%. Caiff y cynlluniau hyn ac eraill eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u cyflwyno gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ar y cyd â phartneriaid eraill.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi lansio mentrau lleol. Mae’n gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd i wneud cyflwyniad pwerus i bob ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos hon i ddangos yn glir beth yw effaith y tanau hyn, a sicrhau bod pobl ifanc yn deall pa mor ddifrifol yw’r troseddau hyn.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn meithrin cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol sydd wedi dod ymlaen i gefnogi’r Gwasanaeth – grwpiau fel y Bicycle Doctor yn y Porth, Wildfire FOA yn Rhondda Cynon Taf, a’r Timau Atal Tanau Glaswellt a Thanau Mynydd yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf a mannau eraill.
Mae’r cymunedau sy’n dioddef oherwydd hyn yn ddig – mae hawl ganddynt fod, ac maent eisiau gweld camau’n cael eu cymryd. Mae llawer o bobl wedi dechrau gwirfoddoli i helpu’r gwasanaeth tân ar lefel gymunedol. Mae atal y bygythiad hwn yn llawer mwy na dim ond diffodd tanau neu erlyn troseddwyr. Mae’n galw am weithredu cadarn ar lefel gymunedol i annog pobl i beidio â chychwyn tanau, ac adnabod ac enwi’r rhai sy’n gwneud hynny. Mae pryder amlwg ymysg y cyhoedd. Gwnaed 170 o alwadau 999 gwahanol ynglŷn â’r un tân mynydd ger Caerffili. Mewn achos arall, tynnodd pobl luniau’r rheini oedd yn ceisio cychwyn tân ger Cwm Clydach, ac mae’r Heddlu wedi cael y lluniau hyn. Mae angen i ni adeiladu ar hyn a sicrhau bod dinasyddion, grwpiau a sefydliadau’n rhan o ffordd gydlynus ac effeithiol o ddatrys y broblem.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae hefyd. Mae angen i ni gyd-drefnu’r camau sy’n cael eu cymryd ar draws y Llywodraeth, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, ysgolion, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, byddaf i a’r Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod gyda’r cyrff allweddol i drafod hyn a llunio rhaglen weithredu eglur a chydgysylltiedig yn y tymor byr, canolig a hir.