Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynheuodd tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Gwener, 26 Ebrill 2013, yn narn o do Trydydd Adeilad y Llyfrgell, sydd yn bennaf yn ofod ar gyfer swyddfeydd. Gweithredodd y Llyfrgell Genedlaethol ei gweithdrefnau argyfwng yn syth, a gwagiwyd yr adeilad o’r holl staff ac ymwelwyr yn ddiogel a didrafferth. Roedd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yno yn brydlon i reoli a diffodd y tân, gan gyfyngu ar y difrod a fu i’r adeilad a’r casgliadau.

Dinistriwyd darn 30 metr o’r to ac achoswyd difrod difrifol i’r swyddfeydd oddi tano. Mae’r gweithdrefnau argyfwng, a gynlluniwyd i ddiogelu casgliadau’r Llyfrgell mewn achos o’r fath, yn parhau. Nos Wener, cyrhaeddodd tîm arbenigol sy’n adfer dogfennau yn dilyn trychinebau, a gweithio gyda staff y Llyfrgell dros y penwythnos i asesu a lliniaru ar unrhyw ddifrod i’r casgliad. Mae’r difrod i’r casgliad wedi’i gyfyngu i eitemau oedd yng nghyffiniau’r digwyddiad ac mae’n debyg nad yw’r difrod iddynt yn helaeth ac y gellir adfer y rhan fwyaf o’r dogfennau yr effeithiwyd arnynt. Nid effeithiwyd ar unrhyw un o’r trysorau mwyaf sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Mae’r Gwasanaeth Tân yn ymchwilio i achos y tân a bydd y Llyfrgell hefyd yn ymgymryd ag ymchwiliad mewnol ei hun i’r hyn a’i hachosodd. Mae maint y difrod i adeiladwaith yr adeilad a goblygiadau ariannol y tân yn cael eu hasesu ac felly mae’n rhy gynnar i mi wneud sylw ar y materion hyn.

Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson â staff y Llyfrgell drwy gydol y penwythnos a byddant yn parhau i gydweithio’n agos â’r Llyfrgell dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod. Byddaf yn ymweld â’r Llyfrgell fy hun ar ddydd Iau'r wythnos hon i weld y difrod, ac i ddechrau trafodaeth ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell yn un o’n sefydliadau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr a hoffwn sicrhau’r Llyfrgell o’m cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod anodd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru’n ddiolchgar iawn am broffesiynoldeb ac ymroddiad y diffoddwyr tân, staff y Llyfrgell a phob un o’r unigolion a sefydliadau sydd wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd i ddiogelu treftadaeth gyfoethog ein cenedl, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Byddaf yn eich diweddaru ar y sefyllfa yma wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r fei dros y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.

Mae’r diweddaraf gan y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei gyhoeddi ar eu gwefan:
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=160&L=1, Facebook, a chyfrifon Twitter.