Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas - y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i gadarnhau fy mwriad i ddiwygio'r trefniadau presennol ymhellach ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i roi gwybod sut yr wyf yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Fel imi sôn ar y pryd, rwy am i gam nesaf y broses ddiwygio yng Nghymru barhau â’m polisi a ddechreuwyd yn 2011 ar gyfer system decach a llai cymhleth o dalu am ofal na’r trefniadau presennol, ac un sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn yr hir dymor. Mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn allweddol wrth gyflawni hynny. Bydd y Ddeddf yn cynnig y fframwaith deddfwriaethol i weithredu’r diwygio hwnnw. Rhoddais wybod i'r Aelodau hefyd am y contract yr oeddwn wedi ei ddyfarnu i LE Wales, sef cwmni ymgynghori blaenllaw sy’n arbenigo mewn economeg polisi cyhoeddus. Contract i gynnal astudiaeth ymchwil annibynnol oedd hwn, er mwyn cael gwybodaeth a fydd yn cefnogi ein gwaith diwygio pellach. Prif sylw'r astudiaeth hyd yma fu casglu, coladu a dadansoddi'r data craidd a'r dangosyddion perthnasol sydd ar gael ynglŷn â dyfodol talu am ofal yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth honno'n rhoi darlun sylfaenol o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n falch gennyf roi gwybod bod gwaith ar yr astudiaeth yn bwrw ymlaen yn gyson. Mae adroddiad ar y cam cyntaf wedi'i gwblhau, ac rwy'n ei gyhoeddi heddiw. Mae'r Adroddiad i'w weld yn:

Bellach, mae LE Wales wedi dechrau ar ail gam eu gwaith. Byddant yn ceisio cael barn o'r sector gofal, er mwyn cael gwybodaeth a data a fydd yn helpu'r broses honno, ac y gellir eu defnyddio i bennu ac ystyried set o opsiynau ar gyfer y diwygio ychwanegol.  Mae disgwyl i'r astudiaeth ymchwil ddod i ben ym mis Medi.

Wrth i'r astudiaeth fynd rhagddi, mae'n hanfodol ein bod yn meithrin perthynas â rhanddeiliaid i gael eu barn a'u safbwyntiau ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y diwygio hwn.  O ganlyniad i hynny, rwy ar fin gofyn am enwebiadau ar gyfer aelodau i'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid ar Dalu am Ofal, grŵp sydd wedi'i ailsefydlu. Byddaf yn sicrhau bod y Grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o sefydliadau yn y sector gofal, yn ogystal ag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal a chymorth  Bydd Rhaglen Waith y Grŵp yn sicrhau amrywiaeth eang o faterion ynghylch y trefniadau o ran talu am ofal, a bydd y materion a'r ffactorau allweddol hynny a allai effeithio neu ddylanwadu ar drefniadau yn y dyfodol yn cael eu hystyried a'u trafod yn llawn.  Byddaf yn gofyn i'r Grŵp roi gwybod eu barn erbyn yr hydref, ar ôl iddynt gael cyfle i ystyried canlyniadau'r astudiaeth ymchwil.

Rwy hefyd am gael cyfarfod â Gweinidog Gwladol y DU dros Ofal a Chymorth i drafod ein cynnydd perthnasol yn fanylach, er mwyn imi werthfawrogi'n well yr heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth inni gyflwyno'n hagendâu ar gyfer y diwygio.

Gwnaf yn siŵr bod yr Aelodau'n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.