Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.
Yr haf diwethaf, cyfrannodd pobl ledled Cymru eu syniadau ar gyfer trethi Cymreig newydd - rhan o drafodaeth genedlaethol a ddechreuais fel ffordd o brofi pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2014, sy'n ein galluogi i gyflwyno trethi newydd mewn meysydd o gyfrifoldeb datganoledig.
Cyflwynodd yr Athro Gerald Holtham y syniad o ardoll i ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol ac fe gyhoeddodd adroddiad byr yn amlinellu sut y gallai hyn weithio. Roedd yr ardoll yn un o bedwar syniad ar y rhestr fer o syniadau ar gyfer trethi newydd ac fe gomisiynais yr Athro Holtham i wneud gwaith pellach ar ei gynnig.
Cyhoeddir adroddiad terfynol yr Athro Holtham, Talu am Ofal Cymdeithasol, heddiw. Mae'n ystyried yr achos economaidd dros system o yswiriant cymdeithasol datblygedig i helpu i ariannu costau gofal cymdeithasol i bobl hŷn.
Nid yw'r her o dalu am ofal yn unigryw o bell ffordd i Gymru, ond mae’n bwysig i'n dull gweithredu gael ei deilwra i anghenion Cymru a gweddu i'n blaenoriaethau ar gyfer dyfodol iechyd a Gofal Cymdeithasol, a nodir yn Cymru Iachach - ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd adroddiad yr Athro Holtham yn llywio gwaith y Grŵp Gweinidogion newydd ar ofal cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Bydd Huw Irranca-Davies yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig manylach am y Grŵp Gweinidogion, ei aelodaeth, ei flaenoriaethau a’i rhaglen waith dros yr wythnosau nesaf.