Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae’n dda gennyf gyhoeddi bod 5,569 o ffermwyr wedi dewis defnyddio gwasanaeth newydd Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein i gyflwyno Ffurflen y Cais Sengl (SAF) yn 2014. I roi hynny yn ei gyd-destun, mae’r nifer hwnnw’n golygu bod 32% o Ffurflenni’r Cais Sengl ar gyfer 2014 wedi’u cyflwyno ar-lein yn ystod blwyddyn gyntaf y gwasanaeth newydd. Mae hwnnw’n ddechrau gwych sy’n cymharu’n ffafriol iawn â’r sefyllfa yn Lloegr lle cafodd 16% o Ffurflenni’r Cais Sengl eu cyflwyno’n electronig yn y flwyddyn gyntaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm sylweddol o £7.9 miliwn er mwyn sefydlu’r gwasanaeth modern, newydd hwn, ac rydym wedi gwneud hynny oherwydd ein bod yn benderfynol o weld y broses o gyflwyno cais am daliadau yn cael ei symleiddio a’i gwella i bawb.
Bydd y system newydd yn helpu i leihau camgymeriadau yn ystod y cam ymgeisio, gan ganiatáu i ffermwyr fynd ati’n gyflym i groeswirio â’r mapiau rhyngweithiol o’u ffermydd. Bydd yn ffordd hefyd o ddiogelu ffermwyr rhag unrhyw oedi a rhag unrhyw gosbau. Mae llwyddiant y system yn dystiolaeth bellach o’n hymateb i adolygiad Gareth Williams, Hwyluso’r Drefn. Holl ddiben yr adolygiad hwnnw yw lleihau biwrocratiaeth i ffermwyr yng Nghymru a chaniatáu iddynt hoelio’u sylw ar ffermio.
Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i’r llu o ffermwyr, i’r undebau ffermio ac i’r asiantiaid a fu’n gweithio gyda Taliadau Gwledig Cymru i ddatblygu’r system. Roedd eu hawgrymiadau a’r ffordd gadarnhaol y gwnaethant ymroi i’r gwaith yn hynod werthfawr, ac yn fodd i sicrhau bod y system a gyflwynwyd gennym yn un mor hawdd â phosibl i’w defnyddio. Hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion Llywodraeth Cymru, a fu’n gweithio’n galed i ddwyn y maen i’r wal. Drwy gydweithio, a thrwy’r amser a’r ymdrech a roddwyd i’r prosiect hwn, llwyddwyd i sicrhau canlyniad ardderchog i ffermwyr, a model o weithio mewn partneriaeth yr wyf yn awyddus i’w weld yn cael ei ddefnyddio’n ehangach.
Rwyf yn disgwyl i’r holl brosesau ymgeisio am daliadau o dan y PAC fod ar gael ar-lein yn unig erbyn 2016. Byddaf yn sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol ar gael ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siŵr na fydd neb yn cael ei adael ar ôl wrth i’r prosiect moderneiddio pwysig hwn gael ei gyflwyno. Bydd y gefnogaeth honno’n cynnwys clinigau lleol lle bydd ffermwyr yn cael cyfle i ddefnyddio’r system newydd a chael hyfforddiant ymarferol. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid eraill i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi ffermwyr wrth inni symud at system ar-lein.