Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”) yn sicrhau nad yw tenantiaid yn gorfod talu costau afresymol ychwanegol, sydd weithiau’n gostau cudd.
Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar denantiaethau byrddaliadol sicr, sef y denantiaeth fwyaf gyffredin yn y sector rhentu preifat.
Ers i'r Ddeddf ddod i rym mae tenantiaid yn gwybod, pan fyddant yn ymrwymo i gytundeb rhentu neu'n adnewyddu’r cytundeb hwnnw, na ellir gofyn iddynt am unrhyw daliadau eraill yn ychwanegol at y rhent, y tu hwnt i'r rhai a ganiateir o dan y Ddeddf. Mae’r taliadau a ganiateir yn cynnwys blaendaliadau sicrwydd a blaendaliadau cadw. Mae hyn yn golygu na ellir codi tâl ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract, nac adnewyddu tenantiaeth.
Amcangyfrifir bod y Ddeddf yn arbed bron £200 y denantiaeth, ar gyfartaledd, i’r tenant.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi dod yn ymwybodol o'r ffordd y mae'r Ddeddf yn effeithio ar rai tenantiaethau byrddaliadol sicr yn y sector rhentu cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys 'tenantiaethau cychwynnol' a 'thenantiaethau rhent y farchnad' sy’n cael eu rhoi gan gymdeithasau tai a rhai tenantiaethau sy’n cael eu rhoi gan ddarparwyr llety â chymorth.
Mae'r mwyafrif helaeth o denantiaethau cymdeithasau tai yn denantiaethau sicr, nad ydynt yn cael eu heffeithio.
Mae'r broblem yn ymwneud yn benodol â thaliadau gwasanaeth a wneir mewn cysylltiad â thenantiaethau byrddaliadol sicr a ph’un a yw’r taliadau hynny’n cael eu gwahardd o dan y Ddeddf. Os yw cymdeithasau tai a darparwyr llety â chymorth wedi rhoi tenantiaethau byrddaliadol sicr, mae'n bosibl bod taliadau gwasanaeth, a thaliadau cysylltiedig eraill o bosibl, wedi cael eu codi a hynny’n groes i ddarpariaethau'r Ddeddf.
Ar ôl ystyried bwriad craidd y Ddeddf yn ofalus a'r goblygiadau i gymdeithasau tai a darparwyr llety â chymorth, credaf fod y Ddeddf wedi creu gwahaniaeth anfwriadol rhwng y ffordd y caniateir i wahanol denantiaethau weithredu yn y sector cymdeithasol, gan fod y Ddeddf ond yn berthnasol i denantiaethau byrddaliadol sicr.
Mae'n bwysig bod y gwahaniaeth anfwriadol hwn yn cael ei gywiro cyn gynted â phosibl.
Mae hwn yn fater cymhleth ac er mwyn mynd i'r afael ag ef mae’n fwriad gennyf i weithredu ar unwaith.
Yn gyntaf, byddaf yn cyflwyno Offeryn Statudol cyn gynted â phosibl i ddiwygio'r rhestr o daliadau a ganiateir o dan y Ddeddf i gynnwys y taliadau hyn fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ac felly caiff yr Aelodau gyfle i'w drafod bryd hynny.
Yn ail, bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio’n agos â darparwyr i ganfod trefniadau dros dro i osgoi parhau ag unrhyw daliadau sy’n groes i’r Ddeddf, ac i nodi p’un a fydd hyn yn gadael darparwyr mewn trafferthion ariannol.
Mae’r gwaith hwn yn flaenoriaeth, a byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau am unrhyw ddatblygiadau. Hoffwn sicrhau tenantiaid na fydd y broblem hon yn effeithio arnyn nhw. Problem i landlordiaid - landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu bartneriaid trydydd sector - ac i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi yw hon. Hoffwn ddiolch i Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru a phartneriaid eraill ar draws y sector am gydweithio â ni er mwyn sicrhau bod problemau’n cael eu datrys mor llawn a chyflym â phosibl.