Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuwyd gwneud taliadau arwynebedd Glastir ar 29 Ionawr 2018 ac rwyf yn falch o fedru rhoi gwybod i'r aelodau  bod y gwaith yn mynd yn dda iawn a'n bod wedi prosesu mwy na 77% o'r hawliadau a wnaed gan fusnesau fferm. Mae hwn yn gryn welliant o gymharu â maint y taliadau a wnaed ar y diwrnod cyntaf y llynedd.

Hefyd, mae 88% o'r hawliadau am waith cyfalaf Glastir wedi cael eu prosesu hefyd. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i annog ac atgoffa busnesau fferm i gyflwyno'u hawliadau am waith cyfalaf cyn gynted ag y bo modd. Mae cryn dipyn o hawliadau eto i ddod cyn y dyddiad cau ar 28 Chwefror, a hoffwn annog pob busnes fferm i sicrhau bod hawliadau'n cael eu cwblhau a'u cyflwyno cyn y dyddiadau cau. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.

Agorodd ffenestr daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar 1 Rhagfyr a chafodd dros 91% o'r hawliadau eu talu ar y diwrnod cyntaf. Unwaith eto, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi gwneud yn well na'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) a'r gweinyddiaethau eraill, gan dalu canran uwch o hawliadau BPS ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr daliadau.  

Yn ogystal â gwneud yn well ar daliadau arwynebedd Glastir, rydym yn dal i wneud yn dda wrth dalu BPS. Mae dros 97% o’r hawliadau wedi cael eu talu hyd yma. Mae dros £223 miliwn wedi cael eu talu i mewn i gyfrifon banc dros 15,000 o ffermwyr a busnesau yng Nghymru.

Mae Taliadau Gwledig Cymru yn ceisio talu cynifer o hawliadau ag y bo modd yn ystod ffenestri taliadau'r Comisiwn Ewropeaidd. Wedi dweud hynny, yn unol â rheoliadau'r Comisiwn ar gyfer y cynllun, mae'n ofynnol i’r holl archwiliadau, gan gynnwys sicrhau bod y cofnodion ar gyfer eich tir yn gywir a diweddaru'n system fapio, gael eu cwblhau cyn i unrhyw daliadau gael eu rhyddhau.

Yn yr un modd ag yn y blynyddoedd a fu, ni fydd pob busnes fferm wedi cael ei daliad Glastir a BPS ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr daliadau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n galed i brosesu canfyddiadau'r archwiliadau sydd eto i'w prosesu cyn gynted ag y bo modd ac rwyf yn disgwyl i'r holl hawliadau, ar wahân i'r rhai mwyaf cymhleth, gael eu talu o dan gynllun Glastir a chynllun BPS erbyn diwedd Ebrill 2018.  

Bydd Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2018 ar gael i'w llenwi ar RPW Ar-lein o 5 Mawrth 2018 ymlaen a bydd yn rhaid ei chyflwyno erbyn 15 Mai 2018.  

Os na fydd busnes fferm wedi cael canfyddiadau archwiliadau 2017 erbyn diwedd mis Chwefror, bydd Taliadau Gwledig Cymru yn ysgrifennu ato i esbonio sut y dylai fynd ati i lenwi Ffurflen y Cais Sengl (SAF) ar gyfer 2018.

Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cynnal gwiriadau cychwynnol eto eleni, i dynnu sylw at unrhyw gamgymeriadau posibl ac i roi cyfle i fusnesau fferm ddiwygio'u datganiad ac osgoi cosbau posibl.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi bod yn cydweithio â fy swyddogion ar y gwaith parhaus i ddatblygu RPW Ar-lein, ac sydd wedi cyfrannu at y gwelliant wrth wneud taliadau Glastir a BPS ar gyfer 2017.