Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am nifer yr hawliadau Glastir 2021 a gafodd eu talu ym mis Ionawr.

Cafodd dros 2,200 o hawliadau o dan Glastir Sylfaenol, Uwch, Tir Comin ac Organig eu talu, sef 78% o'r holl hawliadau sydd wedi dod i law. Maen nhw’n werth £26.2 miliwn i fusnesau fferm yng Nghymru sy'n cyfrannu at ein hamcanion o warchod a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella’n hadnoddau pridd a dŵr, adfer cynefinoedd mawndir, ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy weithredu i ddatgarboneiddio amaethyddiaeth Cymru.

Mae hwn yn gryn welliant o gymharu â blynyddoedd blaenorol ac fe'i cyflawnwyd drwy symleiddio Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2021. Arweiniodd hynny at broses symlach, a chaniataodd hefyd inni gyflwyno Rhagdaliadau BPS ym mis Hydref 2021.

Y llynedd, penderfynais estyn Glastir am ddwy flynedd arall er mwyn rhoi cyfle inni sicrhau bod cymorth newydd yn cyd-fynd â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy y bwriedir ei gyflwyno yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y nifer digynsail hwn o daliadau yn cael eu gwneud i fusnesau fferm yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n galed i brosesu'r hawliadau sy'n weddill cyn gynted â phosibl. Rwy’n disgwyl cyrraedd y targed talu a bennwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ymhell cyn 30 Mehefin, gyda phob hawliad, ac eithrio'r hawliadau mwyaf cymhleth, yn cael eu talu erbyn 30 Mehefin.