Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Hoffwn ddiweddaru Aelodau am daliadau a wnaed yn ystod wythnos gyntaf cyfnod talu Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019.
Mae dros 93.5% o fusnesau fferm un ai wedi derbyn eu taliad llawn neu daliad gan y Cynllun Cymorth, ac mae dros £214 miliwn wedi'i dalu i gyfrifon banc mwy na 14,600 o fusnesau fferm yng Nghymru.
Fy mhrif flaenoriaeth gydol 2019 oedd paratoi ar gyfer posibilrwydd Brexit Heb Gytundeb. Am y rheswm hwn nid oedd modd i Taliadau Gwledig Cymru gyflawni'r un lefel o daliadau ar y diwrnod cyntaf o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf. Dyma pam y gwnes sefydlu'r Cynllun Cymorth a all gynnig rhywfaint o sicrwydd a helpu busnesau fferm i reoli eu llif arian tra bo eu hawliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu prosesu.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi hefyd fod Taliadau Gwledig Cymru wedi derbyn data trawsffiniol gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn Lloegr sy'n golygu y gall Llywodraeth Cymru brosesu hawliadau llawn ar gyfer 2019 i dros 76% o'n ffermwyr trawsffiniol.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid o fewn y diwydiant, sydd wedi cydweithio â'm swyddogion gydol y flwyddyn gan ein galluogi i barhau i gyflenwi'r nifer ardderchog o daliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol i fusnesau fferm yng Nghymru.
Mae fy swyddogion yn parhau i gydweithio â'r Asiantaeth Taliadau Gwledig er mwyn derbyn y data sy'n weddill am y ffermydd trawsffiniol ac maent yn gweithio'n ddi-flino i brosesu gweddill hawliadau 2019 cyn gynted â phosibl. Rwy'n disgwyl y bydd yr holl achosion ac eithrio'r rhai mwyaf cymhleth wedi'u cwblhau cyn y bydd y cyfnod talu'n dod i ben ar 30 Mehefin 2020.