Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gofalwyr di-dâl yn darparu gofal a chymorth  amhrisiadwy i bobl. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig.

Rwyf yn gwybod bod llawer o gofalwyr di-dâl wedi cael pethau'n anodd yn ystod y pandemig - yn ariannol ac yn emosiynol. I gydnabod eu hymdrechion enfawr a'u haberth personol ac i helpu gyda rhai o'r costau y maent wedi'u hysgwyddo, rwyf yn cyhoeddi heddiw y bydd taliad untro o £500 yn cael ei wneud i fwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy'n cael Lwfans Gofalwr.

Mae'r taliad wedi'i dargedu at yr unigolion hynny sy'n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ag incwm isel.

Gall darparu gofal a chymorth i rywun arwain yn aml at gostau ychwanegol – o gynnal cartref cynnes i brynu offer meddygol arbenigol. Ochr yn ochr â phenderfyniadau anodd i leihau oriau gwaith neu adael cyflogaeth i ddarparu gofal, gall llawer o ofalwyr di-dâl eu cael eu hunain mewn perygl o ddisgyn i galedi ariannol.

Rwyf wedi cael y fraint o gyfarfod a siarad â llawer o ofalwyr di-dâl dros y ddwy flynedd anodd hyn. Rwyf wedi gwerthfawrogi eu gonestrwydd wrth rannu'r sefyllfaoedd unigryw ac anodd iawn y maent wedi'u hwynebu yn aml.

Rwyf yn benderfynol y byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i gefnogi a gwerthfawrogi pob gofalwr di-dâl a chydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae o ran lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Rwyf yn gobeithio y bydd y taliad hwn yn helpu rywfaint i  leddfu pryderon ariannol, yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn pan fo costau ynni a bwyd ar gynnydd. 

Ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, rydym wedi clywed sut y mae pwysau ar gyllid personol wedi cyrraedd  lefelau anghynaliadwy yn achos llawer o ofalwyr di-dâl.

Ym mis Hydref 2021, dywedodd Carers UK fod mwy na chwarter o ofalwyr Cymru yn ei chael hi'n anodd cael dau ben y llinyn ynghyd.  Roedd 16 y cant wedi lleihau eu horiau gwaith i reoli eu cyfrifoldebau gofalu ac roedd 6% wedi rhoi'r gorau i weithio'n gyfan gwbl i ofalu.

Bydd proses gofrestru yn agor yn ddiweddarach eleni a bydd unrhyw un sy'n cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022 yn gallu cofrestru gyda'u hawdurdod lleol i hawlio'r taliad. Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach ynghylch pryd a sut i gofrestru erbyn diwedd mis Ebrill. 

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector a'r awdurdodau lleol i roi cyhoeddusrwydd i'r taliad hwn er mwyn sicrhau bod pob gofalwr cymwys yn ymwybodol o'u hawl ac yn cael cymorth i wneud hawliad. 

Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau wrth godi ymwybyddiaeth o'r taliad hwn ac wrth annog etholwyr cymwys i wneud hawliad pan fydd cofrestru'n agor.