Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd cynllun newydd yn cael ei gyflwyno heddiw er mwyn helpu busnesau o fewn Ardaloedd Menter a Thwf Lleol i dalu costau gwibgyswllt â’r Rhyngrwyd.

Yn ddiamau mae cysylltedd o’r radd flaenaf â’r Rhyngrwyd yn gwbl allweddol i bob busnes, o’r rhai lleiaf i’r rhai mwyaf. Wrth gwrs mae anghenion pob busnes yn unigryw, gan ddibynnu ar swm a math y data y maent yn ymwneud â hwy. Efallai na fydd microfusnes ond angen gallu anfon e-byst, diweddaru ei wefan a phori tra gallai busnesau bach eraill fod angen lled band llawer iawn mwy er mwyn gallu anfon a derbyn ffeiliau mwy neu ddefnyddio’r cwmwl. Gallai busnesau mwy fod â gofynion sylweddol iawn o ran data sy’n golygu bod angen cysylltiadau penodol gyda chyflymderau lanlwytho a lawrlwytho cymesur.

Mae ein prosiect Cyflymu Cymru yn darparu cyflymderau lanlwytho o hyd at 330Mbps, gan ddibynnu ar y dechnoleg a gaiff ei defnyddio. Bydd y rhan fwyaf o safleoedd yn gallu derbyn cyflymder o o leiaf 30Mbps (61Mbps ar gyfartaledd o dan Cyflymu Cymru). Bydd y lled band hwn yn fwy na digon i’r rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig. Eto i gyd efallai y bydd angen rhagor o gapasiti ar rai busnesau mwy a’r rhai sydd â gofynion mawr o ran data.

Mae cynhyrchion masnachol ar gael a fydd yn sicrhau’r capasiti mwy yma, er enghraifft datrysiad sy’n golygu ffeibr i’r safle neu gyswllt diwifr capasiti uchel. Nid yw’r rhain ar gael ar draws Cymru gyfan ar hyn o bryd, fodd bynnag, ond bwriedir mynd ati i geisio sicrhau bod modd i fwy o bobl fanteisio arnynt. Trwy ysgogi’r galw am y cynhyrchion hyn drwy’r Daleb Gwibgyswllt gobeithir gallu sicrhau y byddant ar gael i fwy o bobl.  

Opsiwn arall yw datrysiad Ethernet sy’n darparu gwibgyswllt penodol a dirwystr o dros 100Mbps. Mae’r mathau hyn o gysylltiadau yn sicrhau’r lled band angenrheidiol ar gyfer busnesau canolig a busnesau mwy ynghyd â’r cydnerthedd sydd ei angen arnynt. Gallai busnesau o’r fath gynnwys rhai lle y mae nifer uchel o staff yn defnyddio cyfrifiaduron sy’n ymdrin â llawer iawn o ddata neu rai lle y mae’r cyflymderau sicr a gaiff eu cynnig gan linell ddirwystr yn gwbl hanfodol.

Mae cysylltiadau Ethernet sy’n defnyddio ffeibr lawer yn fwy costus nag opsiynau eraill, a gall y costau cyfalaf ymlaen llaw fod yn sylweddol. Gall gostio miloedd o bunnoedd i sicrhau cysylltedd a gosod cyswllt ffeibr penodol i’r safle. Yn amlwg gall y costau cychwynnol hyn fod yn gryn rwystr i rai busnesau.

Bydd Cynllun y Taleb Gwibgyswllt yn helpu busnesau i dalu’r costau cyfalaf sydd ynghlwm wrth greu gwibgyswllt data – sef cyflymder lawrlwytho o 100Mps, man lleiaf, cyflymder lanlwytho o 30Mps, man lleiaf, a chyswllt dirwystr (hy mae’r capasiti a gaiff ei hysbysebu ar gael bron â bod gydol yr amser). Yn unol â’n blaenoriaethau economaidd bydd y Cynllun Taleb ar gael yn y rhan fwyaf o Ardaloedd Menter ac Ardaloedd Twf Lleol i ddechrau. Bydd y Cynllun yn darparu cyllid o hyd at £10,000. Bydd yn ariannu’n llwyr y £3,000 cyntaf ac yna 50 y cant y gost rhwng £3,000 ac £17,000. Bydd disgwyl i fusnesau ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y 50% sy’n weddill ac unrhyw gostau eraill sydd uwchlaw £17,000.  

Dyma gam arall yn y gwaith o geisio sicrhau bod gan Gymru un o’r cysylltiadau gorau yn y byd.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun gan gynnwys manylion ynghylch ymgeisio a’r meini prawf cymhwystra ar gael ar lein.