Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adnoddau ac ecosystemau naturiol Cymru yn hanfodol i'n lles. Rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw am ein bwyd, dŵr glân ac aer. Maen nhw'n sylfaenol i'n bywydau a'n bywiolaeth; nhw sy'n darparu'r deunydd crai sy'n sail i gymdeithas a nhw yw asgwrn cefn ein heconomi.

Mae adnoddau naturiol yn sylfaenol i Gymru fel gwlad ac  rydym wedi ymrwymo i'w rheoli'n gynaliadwy fel eu bod yn dod â buddiannau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol hirdymor a fydd hyn yn ein helpu hefyd i wireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi magu enw da fel arweinwyr byd ym maes deddfu dros ddatblygu cynaliadwy ac rydym yn bendderfynol o barhau â hynny. Bydd penderfyniad y DU i adael yr UE yn dod â llawer o heriau yn ei sgil, ond fe ddaw â chyfleoedd newydd hefyd i reoli ein hadnoddau naturiol yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy.

Cafodd y fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru ei greu gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, deddf arloesol iawn.  Rhan allweddol o'r fframwaith fydd y Polisi Adnoddau Naturiol.  Mae hwnnw ar fin cael ei gyhoeddi a bydd yn nodi'r cyfleoedd, y risgiau a'r blaenoriaethau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae'r Ymgynghoriad Taking Forward Wales’ Sustainable Management of Natural Resources  yn nodi nifer o gynigion allweddol ar gyfer gwireddu'n hamcan o reoli adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy.

Mae'n rhestru cynigion inni allu gwneud y gorau o'r manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y gall ein hadnoddau naturiol eu cynnig inni trwy sicrhau bod ein deddfwriaeth coedwigaeth, tirweddau dynodedig a mynediad at yr awyr agored i gyd yn ategu'r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

A bydd yn gweithio at greu rheoliadau gwell a doethach trwy becyn o ddiwygiadau sy'n ymdrin â'r môr a physgodfeydd; seilwaith draenio a dŵr, gwastraff ac ansawdd yr amgylchedd lleol.

Rwy'n croesawu'ch barn ar y cynigion i nodi cyfleoedd i wella'r fframwaith deddfwriaethol a helpu i roi Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar waith.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bwrw-ymlaen-rheoli-adnoddau-naturiol-cymru-yn-gynaliadwy