Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddais fy adroddiad Diwedd y Daith 2014 ‘Blaenoriaethau a Rhagolygon’, sy’n rhoi crynodeb o’r cyfarfodydd a’r ymweliadau yr wyf wedi ymgymryd â hwy dros y chwe mis diwethaf i gyfarfod â staff rheng flaen sy’n darparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf wedi cyfarfod â defnyddwyr gwasanaethau, i glywed eu barn am ein blaenoriaethau buddsoddi.  

Drwy gydol y daith, cafwyd consensws clir ynghylch pwysigrwydd cydweithredu, cynaliadwyedd, atal ac ymyrryd yn gynnar.  Adlewyrchir y negeseuon hyn yn Adroddiad Diwedd y Daith ac maent wedi bod yn sail i ddatblygu Cyllideb Ddrafft 2015-16, y disgwylir ei chyhoeddi ar 30 Medi.  

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o’r llu o enghreifftiau o arferion da y tynnwyd fy sylw atynt yn ystod y Daith, er mwyn i eraill ledled Cymru ystyried a allent hwythau hefyd elwa ar y ffyrdd newydd hyn o weithio.